Hafan | Cyswllt
canolfan wybodaeth bioamrywiaeth gorllewin ccymru
Darllen y dudalen hon yn Gymraeg | Saesneg

Rhanbarth Canolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CWBGC)

Regions Mae’r Map yn dangos rhanbarth CWBGC, sy’n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Nid yw’r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n ymestyn i mewn i ran Gogledd Ddwyreiniol Sir Benfro wedi ei chynnwys oherwydd mae’n dod o dan y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Daliwch y cyrchwr dros y map i gael gwybodaeth ar bob sir unigol

Bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin

Mae gan Sir Gaerfyrddin gynefinoedd sy’n arwyddocaol iawn ar gyfer ein rhanbarth, a’r mwyaf nodedig yw systemau morydol Bae Caerfyrddin a Chilfach Porth Tywyn, corstir a glaswelltir arfordirol, Dyffryn Afon y Tywi a chynefinoedd fforestog mawr yn yr ucheldir, sy’n gartref i’r Wiwer Goch a fwy na thebyg Bele’r Coed.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn gwarchod y cynefinoedd hyn, a rhai rhywogaethau penodol, yn weithgar. Dilynwch y ddolen hon i fynd at y tudalennau bioamrywiaeth ar wefan Cyngor Sir Gâr. Cydlynydd y Bartneriaeth yw Isabel Macho.

Bioamrywiaeth yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn cynnwys cynefinoedd sy’n arwyddocaol iawn ar gyfer ein rhanbarth, a’r mwyaf nodedig yw’r ucheldir, Dyffryn yr Afon Teifi a Bae Aberteifi (Ardal Cadwraeth Arbennig forol).

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion yn gwarchod y cynefinoedd hyn, a rhai rhywogaethau penodol, yn weithgar. Dilynwch y ddolen hon i fynd at dudalennau arfordir a chefn gwlad gwefan Cyngor Sir Ceredigion.

Os ydych wedi gweld rhywbeth diddorol yng Ngheredigion, a wnewch chi drosglwyddo’r wybodaeth at Leanne Bird, Swyddog Bioamrywiaeth, os gwelwch yn dda. Cliciwch yma i gael gwybodaeth gyswllt bwysig a hefyd y fformat a argymhellir ar gyfer y data.

Bioamrywiaeth yn Sir Benfro

Yn Sir Benfro, mae dau awdurdod cynllunio lleol yn rhan o’r gwaith o warchod natur:

Yn Sir Benfro, mae yna gynefinoedd sy’n arwyddocaol iawn ar gyfer ein rhanbarth, a’r mwyaf nodedig yw’r gweundiroedd isel a’r glaswelltiroedd arfordirol, yr ynysoedd oddi ar y lan ar gyfer adar y môr a choetiroedd hynafol. Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnal nifer fawr o rywogaethau, rhai ohonynt i’w gweld yn Sir Benfro yn unig. Mae adar y môr a’r frân goesgoch yn cyfrannu at arwahanrwydd lleol Sir Benfro ac maen nhw’n ddangosyddion da ar gyfer iechyd yr amgylchedd..

Adlewyrchir arwyddocâd rhyngwladol a chenedlaethol bioamrywiaeth Sir Benfro gan y ffaith fod tua 6% o arwynebedd y tir o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n cynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Mae gan Sir Benfro 259Km o forlin, y mwyafrif ohono o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’n cynnwys yr unig Warchodfa Natur Forol yng Nghymru yn ogystal â 3 Ardal Cadwraeth Arbennig forol.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro yn gwarchod y cynefinoedd hyn, a rhai rhywogaethau, yn weithgar. Cydlynydd y Bartneriaeth yw Bethan Cox. cliciwch yma i fynd at wefan y bartneriaeth.

 
Website Design and Hosting by W3 Web Designs Ltd