Colin Russell, Rheolwr y Ganolfan

Ymunodd Colin â CWBGC yn 2008 ac mae ei gyfrifoldeb, yn ogystal â rheoli pob agwedd ar y ganolfan, yn cynnwys cyswllt â phartneriaid cyllido CWBGC a’r tair Canolfan Gofnodi Leol arall yng Nghymru. Mae safle CWBGC yn y rhwydwaith agos hwn o CCLl yn golygu ei fod ef, fel rheolwr, yn gallu gwneud defnydd o’r profiad sydd ar gael yn y canolfannau eraill, a chyfrannu ar lefel strategol at gyflwyno’r wybodaeth o’r safon uchaf am fioamrywiaeth, er lles y cyhoedd.
Mae gan Colin radd mewn sŵoleg ac mae wrth ei fodd â chefn gwlad. Mae ei ddiddordebau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi mynd ag o i ddringo yn yr awyr agored, i syrffio ac, yn ddiweddar, i hwylio o amgylch arfordir Sir Benfro a Dyfrffordd Aberdaugleddau.
Kate Jones, Uwch Swyddog Data Rhywogaethau
Ymunodd Kate â CWBGC yn 2006 ac mae’n gyfrifol am reoli ein bas data o gofnodion biolegol. Mae gan Kate ran allweddol i’w chwarae mewn cynnal safon uchel yr wybodaeth rydym yn ei darparu am fioamrywiaeth. Fel rhan o’r swydd hon, mae’n gweithio’n agos â chofnodwyr biolegol gwirfoddol a phroffesiynol ein rhanbarth er mwyn casglu, rheoli a dilysu gwybodaeth am rywogaethau.
Ymhlith diddordebau Kate mae teithio, cerdded a ffotograffiaeth. Mae nifer o’r lluniau a welwch chi yn y wefan yn waith Kate o Orllewin Cymru. Mae wrth ei bodd â byd natur, bywyd gwyllt a chadwraeth natur ac mae’n llawn edmygedd o’r bobl hynny sydd ag amser a gwybodaeth i wneud cofnodion biolegol manwl gywir a gofalus.
Vicky Swann, Uwch Swyddog Ymholiadau Data

Mae Vicky Swann yn aelod o staff CWBGC ers dechrau mis Ionawr 2008. Mae Vicky’n gweithio gyda’n System Wybodaeth Ddaearyddol ac mae ei rôl yn cynnwys cysylltu ag Awdurdodau Lleol mewn perthynas â rhestri ceisiadau cynllunio a hefyd cyflwyno mapiau ac adroddiadau y gwnaed cais amdaynt gan ymgynghorwyr preifat a sefydliadau eraill, fel Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth y Priffyrdd, sydd angen gwybodaeth am rywogaethau, safleoedd dan warchodaeth a chynefinoedd rhanbarth CWBGC.
Yn ogystal â gwneud ei gwaith craidd, mae Vicky hefyd wedi chwarae rhan allweddol mewn nifer o brosiectau y mae CWBGC yn ymwneud â hwy, gan ddefnyddio ei sgiliau i wneud gwybodaeth fiolegol grai’n ddefnyddiadwy ar gyfer modelu a dadansoddi digidol.
Bwrdd Cyfarwyddwyr CWBGC