Hafan | Cyswllt
canolfan wybodaeth bioamrywiaeth gorllewin ccymru
Darllen y dudalen hon yn Gymraeg | Saesneg

Ynglŷn â CWBGC

CANOLFAN WYBODAETH BIOAMRYWIAETH GORLLEWIN CYMRU

Dyma un o bedair Canolfan Cofnodion Lleol. Gyda’i gilydd, maent yn gyfleuster i storio a gloywi data ar fioamrywiaeth ar gyfer Cymru gyfan. Mae pob Canolfan Cofnodion Lleol yn gainc ranbarthol yn y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, ac mae’n cael ei ddiffinio fel: gwasanaeth nid-am-elw a weithredir mewn partneriaeth, er lles y cyhoedd, sy’n casglu, yn coladu, yn rheoli ac yn dosbarthu gwybodaeth o ansawdd hysbys yn ymwneud â bywyd gwyllt, safleoedd bywyd gwyllt a chynefinoedd, ar gyfer ardal ddaearyddol ddiffiniedig.

Mae CWBGC yn cwmpasu gweithgarwch cofnodi biolegol mewn ardal o tua 5600km2. Mae hyn yn cynnwys Is-siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gyfan, ac eithrio’r adran Ddwyreiniol fechan o’r sir sy’n dod o dan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – mae’r ardal hon yn cael ei thrafod gan Ganolfan Cofnodion Lleol arall (ar gyfer Bannau Brycheiniog a Phowys). Fodd bynnag, mae cofnodion biolegol yn cael eu cyfnewid rhwng y Canolfannau Cofnodion Lleol yn ôl yr angen.

Ar hyn o bryd, mae gan CWBGC tua 560,000 o gofnodion rhywogaethau, llawer ohonynt yn deillio o astudiaethau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a mwyafrif y gweddill gan gofnodwyr biolegol gwirfoddol. Sefydlwyd y Ganolfan Cofnodion gyda chefnogaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru a defnyddwyr pwysig eraill y gronfa ddata, gan gynnwys Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Cynllunio Lleol. Mae’r partneriaid noddi hyn angen y data biolegol hwn er mwyn cyflawni eu gofynion statudol – mae’n rhaid iddynt ‘ystyried’ yr angen i warchod bioamrywiaeth wrth gynllunio a rheoli tir.

Nid yw CWBGC yn ‘berchen’ ar ei daliadau data ei hun, ond mae ganddi’r awdurdod i’w defnyddio’n gall ac i godi tâl priodol am unrhyw amser sy’n cael ei dreulio yn gwasanaethu ceisiadau am ddata.

Mae pob Is-sir yn dir gweithredol ar gyfer cofnodwyr biolegol, ac mae un o’r cofnodwyr biolegol hyn yn cael ei benodi fel ‘Cofnodydd Sirol’ ar gyfer grŵp dosbarthiad penodol. Rôl y Cofnodydd Sirol yw archwilio cofnodion sy’n dod i law. Mae CWBGC yn gweithio’n agos gyda’r Cofnodwyr Sirol hyn er mwyn cynnal safonau ansawdd y data. Mae CWBGC yn chwarae rhan weithgar yn cefnogi’r gymuned cofnodi biolegol gyda fforymau, help technegol, dadansoddi data a mapio.

Mae elfennau hanfodol cofnod rhywogaeth yn cynnwys:

Mae nifer o gofnodwyr hefyd yn cofnodi pumed maes o’r enw ‘sylwadau’, ac yma maen nhw’n nodi holl fanylion yr arsylwad. Ac felly mae cyflwyno cofnod mewn taenlen i’r Ganolfan, neu’r Cofnodydd Sirol, yn arfer eithaf syml os ydych yn gwybod amdanynt.

Yn ychwanegol at gofnodion rhywogaethau sy’n cael eu cadw fel data pwynt mewn systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS), mae gan CWBGC ddata helaeth ar safleoedd dan warchodaeth, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a dynodiadau Ewropeaidd, ac ar gynefinoedd - y cyfan wedi ei storio fel data polygon yn y GIS. Mae gan CWBGC gyfres helaeth o feddalwedd GIS a chaledwedd gyfrifiadurol, gyda llawer o systemau data wrth gefn i roi sicrwydd. Felly mae’r data ar fioamrywiaeth yn cael ei drafod mewn cyfleuster arbenigol iawn, ac mae swm sylweddol o’r wybodaeth ar gael i’w chwilio’n hwylus.

Gwasanaeth craidd y Ganolfan Cofnodion Lleol yw darparu adroddiadau ynghylch rhywogaethau, cynefinoedd a safleoedd dan warchodaeth ar gyfer lleoliad penodol. Mae llawer o oriau gwaith y Ganolfan Cofnodion Lleol yn cael eu treulio ar adrodd ar geisiadau cynllunio, ar ddatblygiadau graddfa fawr ar gyfer y dyfodol, ac ar safleoedd cynnal a chadw peirianneg, i sicrhau nad yw’r gweithgareddau a ganiateir yn cael effaith anghyfreithlon neu ddiangen ar fywyd gwyllt sy’n agored i niwed.

Gyda’u gallu GIS helaeth, mae Canolfannau Cofnodion Lleol hefyd yn gallu cynnig gwasanaethau uwch, gan gynnwys rheoli data ar gyfer trydydd person a dadansoddi data. Mae CWBGC, er enghraifft, wedi: helpu darparu gwybodaeth gryno ar atyniadau bywyd gwyllt ar gyfer twristiaeth gynaliadwy; rheoli data hamdden ar gyfer Fforwm Arfordirol Sir Benfro; a mapio cynefin addas ar gyfer y Cudyll Coch a Llygoden y Dŵr.

Os oes gennych gofnodion i’w cyflwyno, a wnewch chi eu hanfon at ein Swyddog Data Rhywogaethau, Kate Jones, drwy’r e-bost: kate@westwalesbioamrywiaeth.org.uk neu’r post: CWBGC, Canolfan Busnes Landsker, Llwynybrain, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin SA34 0NG neu ffoniwch: 01994 241468

 
Website Design and Hosting by W3 Web Designs Ltd