Graddfa Daliadau
CRYNODEB O EGWYDDORION
Mae Canolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CWBGC) yn gwmni dielw sy’n darparu gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau bioamrywiaeth, a gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau eraill cysylltiedig, i amrywiaeth o ddefnyddwyr. Mae cynnal gwasanaeth o’r fath yn costio wrth reswm ac er mwyn i CWBGC barhau’n gynaliadwy’n ariannol, mae’n rhaid i’w defnyddwyr dalu’r costau hyn.
Mae prisiau CWBGC wedi’u pennu er mwyn adfer costau’r amser a dreulir yn dod o hyd i, yn prosesu ac yn rheoli data, yn ogystal ag yn cyflenwi data i’r defnyddwyr. Mae’r costau’n cynnwys amser staff a’r gorbenion cysylltiedig â rhedeg CWBGC. Ni chodir ffi am y data neu’r wybodaeth benodol a drosglwyddir i ddefnyddwyr, gan mai nid CWBGC yw perchennog y data, ond mae ganddi awdurdod i’w defnyddio.
Mae’r prisiau (ar gyfer 2010/11) sydd wedi’u datgan yn y tabl isod wedi’u pennu er mwyn rhoi ystyriaeth i’r canlynol:
|
Band |
Pris |
Pwy |
|
Graddfa Daliadau |
||
|
A |
£90.00 (yr awr gyntaf) |
Defnyddwyr masnachol (am adroddiadau ysgrifenedig, yn cynnwys mapiau) |
|
B |
£57.50 |
Defnyddwyr newydd anfasnachol (dim CLG) |
|
C |
£55.00 |
Defnyddwyr newydd anfasnachol (gyda CLG) |
|
D |
£52.50 |
Defnyddwyr anfasnachol gyda pherthynas ers amser maith â CWBGC (dim CLG) |
|
E |
£50.00 |
Defnyddwyr anfasnachol gyda pherthynas ers amser maith â CWBGC (gyda CLG) |
|
F |
£28.75 |
Defnyddwyr elusennol newydd (dim CLG) |
|
G |
£27.50 |
Defnyddwyr elusennol newydd (gyda CLG) |
|
H |
£26.25 |
Defnyddwyr elusennol gyda pherthynas ers amser maith â CWBGC (dim CLG) |
|
I |
£25.00 |
Defnyddwyr elusennol gyda pherthynas ers amser maith â CWBGC (gyda CLG) |
I sefydliadau heb CLG, bydd pris lleiafswm sy’n cyfateb i awr o waith yn berthnasol. Bydd hyn yn talu am gostau gweinyddol cofnodi ac ymateb i ymholiadau. Fel rheol, codir pris awr os gwneir ymchwiliad heb ganfod unrhyw ddata, ond efallai y rhoddir gostyngiad, yn unol â mympwy Rheolwr CWBGC.
Bydd CWBGC yn adolygu ei phrisiau’n flynyddol. Os gwneir unrhyw newidiadau, bydd yr holl ddefnyddwyr a restrir ar Gofrestr Defnyddwyr Data Cymeradwy CWBGC yn cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig, o leiaf fis cyn i unrhyw newid ddod i rym.
Fel rheol, bydd y defnyddwyr a ganlyn wedi’u heithrio rhag talu (ond ceidw CWBGC yr hawl i godi ffi os bydd y ceisiadau’n cymryd llawer iawn o amser y staff):
Gweithredir y polisi hwn drwy gyfrwng y ‘datganiad o weithdrefn’ a ganlyn.
GWEITHDREFN
Bydd CWBGC yn gweithredu ei pholisi prisio mewn ffordd gwbl glir ac eglur. Dylai’r holl ddefnyddwyr gael gwybod beth yw’r prisiau a derbyn amcangyfrif o’r gost cyn cadarnhau ceisiadau am ddata. Bydd gwybodaeth am y prisiau ar gael yn eang drwy gyfrwng y wefan.
Wedi derbyn cais am ddata, bydd staff CWBGC yn dilyn y gweithdrefnau sydd wedi’u cyflwyno yn Rheoli Mynediad i Ddata. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad at ddarparu amcan-bris o’r gost cyn dechrau chwilio am ddata ac anfonebu wrth gyflenwi’r data. Mewn rhai achosion arbennig, yn enwedig lle gwneir cais am lawer iawn o ddata, efallai fod angen darparu ffigur ‘eithaf agos ati’. Dylid rhoi gwybod i’r defnyddiwr os yw’r pris terfynol yn debygol o fod yn fwy na’r ffigur a amcangyfrifwyd i ddechrau.
Bydd CWBGC yn gweithredu system o anfonebau wedi’u rhifo. Y telerau talu fydd 28 diwrnod. Efallai y gwneir cais am dalu anfonebau gorddyledus dros y ffôn neu drwy gyswllt ysgrifenedig ar unwaith wedi i’r cyfnod o 28 diwrnod ddod i ben.
Bydd yr holl amser a dreulir gan staff CWBGC yn rhoi sylw i geisiadau am ddata’n cael ei gofnodi, pa un ai yw’r gwaith yn cael ei wneud ar ran deilydd CLG neu unigolyn heb gytundeb o’r fath. Cofnodir yr amser a dreulir ar ymholiadau penodol i’r 15 munud agosaf. Defnyddir y system cofnodi amser yma i benderfynu ar yr union bris. Os bydd y ffigur yn uwch na’r amcangyfrif a’r defnyddiwr heb gael gwybod am hynny (gweler 2.2), dylid defnyddio’r amcangyfrif gwreiddiol at ddibenion anfonebu.
Bydd y system cofnodi amser yn galluogi’r staff i ddarparu adroddiadau cyflym ar y credyd sydd gan bartneriaid gyda CLGau yn weddill. Bydd datganiadau defnydd yn cael eu hargraffu a’u hanfon at ddeilyddion CLG, fel sy’n ofynnol (am y cyfnod hyd at ddiwedd y mis llawn blaenorol).