Cynnyrch
a Gwasanaethau
Gwasanaeth Ymholiadau Bioamrywiaeth
– chwilio
oddi mewn i ardal ddaearyddol a ddiffinnir gan y defnyddiwr. Yn cynnwys
adroddiad ar rywogaethau, cynefinoedd a data safle dynodedig a lleol, wedi’u
categoreiddio i ddilyn statws amrywiol a gydnabyddir yn Rhyngwladol, yn
Ewropeaidd, yn genedlaethol ac yn lleol. Plot y System Wybodaeth Ddaearyddol
(SWDd) yn dangos pwyntiau (e.e. ar gyfer nifer y rhywogaethau) neu bolygonau
(e.e. ar gyfer mathau o gynefin).
Gwasanaeth Gwirio’r Rhestr Gynllunio
– Gall
awdurdodau cynllunio gyflwyno ceisiadau neu restri dethol o’r holl geisiadau
cynllunio ar gyfer chwilio am fioamrywiaeth, i gyfres gytunedig o feini prawf,
i gynnwys archwiliad rhywogaethau, safle a chynefin byr. Gellir ymestyn y
gwasanaeth hwn i gynnwys gwirio ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol.
Haenau Rhybuddio’r SWDd
– Gall is-adran o rywogaethau
a data safle a gedwir gan y Canolfannau Cofnodi Lleol (CCLl’au) gael ei chyflenwi
fel Haenau Rhybuddio, drwy gyfrwng Cytundeb Trwydded Data wedi’i addasu i
anghenion y cwsmeriaid. Yna mae’r rhain yn cael eu cadw i fod ar gael yn hwylus
yn system TG y cwsmeriaid a gellir eu mapio ar y mapiau OS sylfaen gan
ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd y SWDd. Fel rhan o’r gwasanaeth, gall Canolfan
Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CWBGC) gyflenwi diweddariadau
rheolaidd, yn chwarterol fel rheol neu bob 6 mis, i’r cwsmer. Bydd y
diweddariadau hyn yn cynnwys unrhyw ychwanegiadau a wneir at y bas data
cofnodi. Gellir darparu hwn fel gwasanaeth unigol neu wasanaeth Canolfan Gofnodi
Leol Cymru.
Rheoli data
– Casglu a rheoli data am rywogaethau a
chynefinoedd i gynnwys cyfnewid data â chofnodwyr Is-Sirol er mwyn dilysu a
rheoli’r data a gyfnewidir â Phorth y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol.
Gwasanaeth digideiddio
– Digideiddio Cam 1/data
cynefinoedd NVC neu derfynau safleoedd ar ffurf y Systemau Gwybodaeth
Daearyddol. Bwydo cofnodion am rywogaethau o fformat papur i fod yn fformat
electronig. Adfer y data sydd wedi’i gadw mewn fformatau electronig sydd wedi
dyddio.
Dosbarthiad rhywogaethau
– mapiau’n dangos dosbarthiad
rhywogaethau unigol neu grŵp tacson yn ôl sgwâr grid.
Cefnogi Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
drwy ddarparu data llinell sylfaen am rywogaethau a chynefinoedd,
archwiliadau ar rywogaethau ac ystadegau ar gyfer BARS (y System Gofnodi ar
gyfer Gweithredu Bioamrywiaeth).
Y Cynnyrch a’r Gwasanaethau
Ychwanegol sydd ar gael
Mynediad i Wasanaeth Mapio’r Rhyngrwyd
– Gall
Partneriaid Cyllido sicrhau mynediad uniongyrchol i’r holl ddata a gedwir yn y
prif fas data daearyddol yn CWBGC drwy gyfrwng Gwasanaeth Mapio’r Rhyngrwyd.
Drwy fewngofnodi yma, gallant weld haenau rhybuddio o’r wybodaeth ddiweddaraf
am rywogaethau, cynefinoedd a safleoedd yn y bas data hwn. Gellir edrych ar yr
wybodaeth wedi’i mapio dros fapiau sylfaen Arolwg Ordnans neu luniau o’r awyr
neu haenau cyd-destunol wedi’u haddasu i ofynion y cwsmeriaid.
Dadansoddi a modelu Data’r Systemau Gwybodaeth Daearyddol
-
Asesiad Bioamrywiaeth lle mae’r data’n defnyddio amrywiaeth o
nodweddion sy’n cael eu cyfuno i lunio haen rybuddio sengl yn dynodi’r
gwerth cyffredinol i fioamrywiaeth.
-
Darnio cynefinoedd a modelu cysylltedd.
-
Y tebygolrwydd o fodolaeth a modelu metaboblogaeth.
-
Dadansoddiad hydrolegol (modelu symudiad dŵr ar draws arwyneb).
-
Dadansoddi erydiad (modelu erydiad a gwaddodiad ar draws arwyneb).