Hafan | Cyswllt
canolfan wybodaeth bioamrywiaeth gorllewin ccymru
Darllen y dudalen hon yn Gymraeg | Saesneg

Ceisiadau am Ddata

Adroddiadau ar chwiliadau sy’n benodol i ardal yw’r ceisiadau mwyaf cyffredin y mae’r Canolfannau Cofnodion Lleol yn eu cael, ond rydyn ni hefyd yn gallu darparu gwybodaeth fwy cyffredinol ar gyfer y rhanbarth, yn ogystal ag arolygon penbwrdd manwl, wedi eu teilwra’n arbennig. Mae ein hadroddiadau yn gallu cynnwys gwybodaeth ar rywogaethau, safleoedd statudol ac anstatudol a chynefinoedd.

Mae ein ffioedd yn dibynnu ar natur eich busnes (a yw’n fasnachol neu’n ddielw) ac ar yr amser y mae’n ei gymryd i wasanaethu eich cais. Rydym yn gostwng ein cyfraddau ar gyfer y partneriaid cyllido hir dymor sydd wedi cyfrannu nawdd grant tuag at sefydlu’r gwasanaeth. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gwybodaeth gyffredinol ynghylch bioamrywiaeth ar gael yn hwylus i’r cyhoedd ac i ysgolion, trwy dudalennau’r wefan hon yn bennaf. Mae croeso i chi gysylltu â ni am wybodaeth bellach, a chroeso i chi anfon unrhyw sylwadau atom hefyd.

Cyn i ni drafod eich chwiliad data, mae angen i chi lenwi ffurflen syml, a gellir lawrlwytho’r ffurflen hon yma: ffurflen ymholiad a rhyddhau data. Neu, cysylltwch â ni drwy’r Ffurflen Cyswllt E-bost gydag unrhyw ymholiadau eraill ynghylch chwiliadau data.

Adroddiadau enghreifftiol

Isod, ceir enghraifft o adroddiad arferol, dau fap, un yn dangos rhywogaethau a safleoedd, a’r llall yn dangos cynefinoedd sy’n flaenoriaeth, ac adroddiad ysgrifenedig.

Cliciwch ar unrhyw un o’r delweddau isod i weld delwedd maint llawn.

 
Website Design and Hosting by W3 Web Designs Ltd