Hafan | Cyswllt
canolfan wybodaeth bioamrywiaeth gorllewin ccymru
Darllen y dudalen hon yn Gymraeg | Saesneg

West Wales Biodiversity Information Centre

map of WalesPwy ydym ni

Rydym yn un o bedair Canolfan Cofnodion Lleol yng Nghymru. Gyda’n gilydd, rydym yn casglu gwybodaeth ar fioamrywiaeth ar gyfer Cymru gyfan, ac yn coladu’r wybodaeth honno yn ogystal â’i dosbarthu a’i rheoli. Cliciwch ar y map o Gymru i fynd at wefannau’r Canolfannau Cofnodion Lleol, neu chwiliwch am eich canolfan cofnodion lleol yn www.lrcwales.org.uk

Rydym yn gwmni nid-am-elw, ac mae ein rhanbarth yn cynnwys Is-siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - ardal o ryw 5650km2.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni dros hanner miliwn o gofnodion rhywogaethau, yn ychwanegol at ddata ar gynefinoedd a safleoedd dynodedig a data biolegol arall. Daw’r wybodaeth gan gofnodwyr biolegol gwirfoddol, cyrff cyhoeddus, mudiadau cadwraeth a chynlluniau a chymdeithasau cenedlaethol a lleol. Rydym yn cadw’r wybodaeth ar gronfa ddata sy’n tyfu drwy’r amser, ac yn cynnal yr wybodaeth honno hefyd.

Ein gwaith

Diben y Ganolfan Cofnodion Lleol yw caffael gwybodaeth o ansawdd hysbys, ei chynnal, a’i dosbarthu mewn ffordd y gall pobl sy’n gwneud penderfyniadau, rheolwyr cadwraeth a’r cyhoedd ei defnyddio i warchod a gwella bioamrywiaeth yn y rhanbarth. Gellir gofyn am chwiliadau data ar fioamrywiaeth trwy ddilyn adran Ymholiadau Data'r wefan.

 
Website Design and Hosting by W3 Web Designs Ltd