Hafan | Cyswllt
canolfan wybodaeth bioamrywiaeth gorllewin ccymru
Darllen y dudalen hon yn Gymraeg | Saesneg

Cofnodi

Yng Ngorllewin Cymru, fel y mae ar draws y Deyrnas Unedig, mae yna fyddin o amaturiaid lleol sy’n cofnodi pob math o wybodaeth ar rywogaethau. Mae llawer ohonynt yn trosglwyddo eu cofnodion rhywogaethau at y cofnodydd sirol lleol neu at grŵp, cymdeithas neu gynllun cofnodi lleol neu genedlaethol.

Yn gyffredinol, gwelir y cofnodydd sirol fel yr arbenigwr lleol ar gyfer grŵp tacsonomig penodol. Mae cofnodwyr amatur sy’n trosglwyddo’u cofnodion at y cofnodydd sir perthnasol, yn cyfrannu at gronfa ddata sirol werthfawr. Fel yr arbenigwr lleol, fe fydd y cofnodydd sirol yn gwirio cofnodion ac fe fydd hefyd yn gallu cynghori a helpu adnabod rhywogaethau. Mae cofnodwyr sirol yn rhoi’n sylweddol o’u hamser a’u hymdrech, a hynny’n wirfoddol, i lunio a choladu cronfa ddata sirol fanwl gywir. Mae setiau data o’r fath yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr, yn lleol ac yn genedlaethol.

Dyma restr o Gofnodwyr Sirol ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru

Mae CWBGC yn dibynnu ar gofnodwyr gwirfoddol ar draws y rhanbarth. Os oes diddordeb gennych chi mewn cofnodi bywyd gwyllt ond nid ydych yn siŵr sut i wneud hynny, dyma grynodeb cyflym o’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud cofnod:

Pwy – enw’r cofnodydd

Beth – pa rywogaeth a welwyd, os nad ydych yn siŵr cymerwch ffotograff neu nodwch ddisgrifiad ar ddarn o bapur

Ble - ble gwelwyd y rhywogaeth, enw’r lleoliad a chyfeirnod grid os yn bosib, gorau po fwyaf penodol allwch chi fod.

Pryd – y dyddiad y gwelwyd y rhywogaeth

Sylwadau – nid yw hyn yn hanfodol, ond mae’n gallu bod yn ddefnyddiol. Ai benywaidd neu wrywaidd oedd y rhywogaeth? Disgrifiwch ei ymddygiad neu nodwch sawl un oedd yno.

Yma yn CWBGC, rydyn ni’n gwerthfawrogi pob cofnod, boed yn rhywbeth cyffredin a welir bob dydd neu’n rhywbeth sy’n brin iawn i’r rhanbarth. Rydym yn teimlo nad oes digon o rywogaethau cyffredin yn cael eu cofnodi yn y rhanbarth. Mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd i’n rhywogaethau mwy cyffredin yn ogystal â’r rhai prin a’r rhai sydd dan warchodaeth.

Dyma’r fformat y mae CWBGC yn ei argymell i lunio cofnodion

 
Website Design and Hosting by W3 Web Designs Ltd