Proses y Data
Dilysu a Gwirio
Mae’n rhaid i’r data a gedwir ac a ddefnyddir gennym fod yn fanwl gywir ac yn ddibynadwy. Er mwyn ein helpu i gynnal safon yr wybodaeth, mae’r data rydym yn eu derbyn yn mynd drwy broses o ddilysu a gwirio.
Gwirio
Mae’r gwirio’n cynnwys edrych yn fanwl am gamgymeriadau o ran dyddiad, cyfeirnod grid neu wallau teipio eraill.
Cyfeirnodau grid : mae’r data’n cael ei fapio ac mae’r cofnodion yn cael eu gwirio’n erbyn enwau lleoliadau, fel archwiliad cyflym.
Dyddiadau : yn cael eu gwirio am unrhyw gamgymeriadau amlwg ond er mwyn eu bwydo i fas data Recorder6, mae’n rhaid iddynt fod ar fformat penodol ac felly gwneir y rhan fwyaf o’r gwirio yn ystod y broses fformadu. Bydd R6 yn tynnu sylw at rai camgymeriadau yn y dyddiadau wrth eu bwydo i mewn.
Rhywogaethau : mae unrhyw gamgymeriadau sillafu/teipio’n cael eu canfod wrth fwydo i mewn i R6, wrth wirio enwau’r rhywogaethau’n erbyn y geiriadur mewnol.
Dilysu
Rydym yn ystyried dilysu fel cadarnhad gan arbenigwr bod y rhywogaeth wedi cael ei hadnabod yn gywir. Fel rheol, bydd cofnodwr sirol y grŵp tacsonomaidd perthnasol yn gwneud hyn. Mae’r rhan fwyaf o’r data rydym yn eu derbyn ac sydd heb ddod gan y cofnodwr sirol yn cael eu hanfon ato i gael eu dilysu. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, nid yw’n bosibl, neu nid oes angen anfon data sy’n gallu bod yn gofnodion helaeth iawn, at y cofnodwr sirol ac yn achos rhai tacsonau, efallai nad oes unrhyw gofnodwr sirol ar gael i ddilysu’r cofnodion. Oherwydd hyn, rydym yn dosbarthu’r cofnodion fel a ganlyn:
Anghywir , lle mae arbenigwr wedi asesu’r cofnod, wedi penderfynu ei fod yn anghywir ac nid yw’r cofnod yn cael ei ddefnyddio.
Heb ei asesu , lle mae’r cofnod angen ei ddilysu neu’n aros am gael ei ddilysu.
Heb ei gadarnhau , lle mae’r cofnod wedi cael ei asesu ond nid oedd modd ei ddilysu.
Yn cael ei ystyried yn gywir , lle mae’r cofnod yn cael ei ystyried gan CWBGC fel un yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.
Cywir , lle mae’r cofnod wedi cael ei ddilysu gan arbenigwr neu wedi dod gan Gynllun neu Gymdeithas Genedlaethol.