Colin Russell, Rheolwr y Ganolfan
Ymunodd Colin â CGBGC yn 2008 ac mae ei gyfrifoldebau, yn ogystal â rheoli pob agwedd ar y ganolfan, yn cynnwys cysylltu â phartneriaid cyllido CGBGC a’r tair Canolfan Gofnodi Leol arall ledled Cymru. Mae safle CGBGC yn y rhwydwaith clos hwn o Ganolfannau’n golygu ei fod ef, fel rheolwr, yn gallu gwneud defnydd o’r profiad sydd ar gael yn y canolfannau eraill, a’i fod yn gallu cyfrannu ar lefel strategol at gyflwyno gwybodaeth bioamrywiaeth o’r safon uchaf er lles y cyhoedd.
Mae gan Colin radd mewn sŵoleg ac mae wrth ei fodd gyda chefn gwlad. Mae ei hobïau dros y blynyddoedd wedi mynd ag o allan i’r awyr agored i ddringo, syrffio ac, yn ddiweddar, hwylio o amgylch arfordir Sir Benfro a Dyfrffordd Haven.
Kate Smith, Uwch Swyddog Data Rhywogaethau
Ymunodd Kate â CGBGC yn 2006 ac mae’n gyfrifol am reoli ein bas data o gofnodion biolegol. Mae gan Kate rôl allweddol mewn cynnal safon uchel y wybodaeth bioamrywiaeth rydyn ni’n gallu ei darparu. Fel rhan o’r rôl hon, mae’n gweithio’n agos â chofnodwyr biolegol gwirfoddol a phroffesiynol yn ein rhanbarth, i gasglu, rheoli a dilysu gwybodaeth am rywogaethau.
Mae hobïau Kate yn cynnwys teithio, cerdded a ffotograffiaeth. Mae llawer o’r lluniau rydych chi’n eu gweld ar y wefan yn waith Kate o Orllewin Cymru. Mae wrth ei bodd gyda byd natur, bywyd gwyllt a chadwraeth natur, ac mae’n llawn edmygedd o bobl sydd ag amser a gwybodaeth i wneud cofnodion biolegol mor fanwl gywir a gofalus.
Joshua Jones, Swyddog GIS
Josh yw aelod diweddaraf ein tîm, gan ymuno â ni ym mis Chwefror 2016 am gyfnod penodol o dair blynedd. Yn ei rôl bydd Josh yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli GIS a chynhyrchion a gwasanaethau data gofodol eraill, fel ymholiadau data, a ddarperir gan y ganolfan. Yn ychwanegol at y dyletswyddau hyn, mae Josh yn ymwneud â darparu cynhyrchion geo-ofodol sy’n deillio o amrywiaeth o ffynonellau data mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill.
Mae gan Josh radd mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol a Ph.D mewn defnyddio synhwyro o bell a modelu ar gyfer asesu adfywiad mewn fforestydd glaw trofannol. Mae ei ddiddordebau’n canolbwyntio ar fod yn yr awyr agored ac yn cynnwys beicio, nofio dŵr agored, syrffio, ffotograffiaeth a chwarae’r gitâr.
Directors CGBGC
- Jane Hodges (Chair)
- Nigel Ajax-Lewis (Secretary)
- Annie Haycock
- Bob Haycock
- Trevor Theobald
- Lizzie Wilberforce
- Huw Jones
- Chloe Griffiths
- Fiona Lanc
- Adrian Pugh
Fe hoffai CGBGC recriwtio cyfarwyddwyr newydd i’r bwrdd. Byddem yn falch iawn o groesawu pobl o gefndir busnes a TG. Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r profiad a’r sgiliau priodol i fod yn ased i’r cwmni, ac os hoffech chi gyfrannu at y gwaith rydyn ni’n ei wneud fel cyfarwyddwr gwirfoddol, cofiwch gysylltu â’r rheolwr, Colin Russell colin@westwalesbiodiversity.org.uk