Pedwar ffordd i gofnodi gyda CGBGC
Map Cofnodi Ar-lein
Mae rhestri o rywogaethau ar ffurf cwymplen a map i leoli’r cofnod. Mae angen mewngofnodi a bydd rhaid i ddefnyddwyr am y tro cyntaf gofrestru. Wrth i chi nodi cofnodion, fe welwch chi eich cofnodion eich hun ar y map a’u lawrlwytho o’r adroddiad “Fy Nghanlyniadau Byw”.
Lawrlwythwch yr Ap
Record your sightings directly using our easy to use App. It will record the location with the phone GPS and upload pictures. The App works with the online recording site where you can view and edit your field records.
Llenwi Taenlen
Casglwch eich cofnodion eich hun gan ddefnyddio’r fformat a ffafrir ar gyfer data. Gallwch anfon y daenlen atom ni ar ôl nodi’r cofnodion a byddwn yn eu rhoi yn ein bas data.
Cofnodi
Yng Ngorllewin Cymru, fel ledled y DU, mae byddin o amaturiaid lleol yn cofnodi pob math o wybodaeth am rywogaethau. Mae llawer yn anfon eu cofnodion am rywogaethau at y cofnodwr sirol lleol neu grŵp, cymdeithas neu gynllun cofnodi lleol neu genedlaethol.
Fel rheol, mae’r cofnodwr sirol yn cael ei ystyried fel yr arbenigwr lleol ar gyfer grŵp tacsonomaidd penodol. Mae cofnodwyr amatur yn anfon eu cofnodion at y cofnodwr sirol perthnasol i gyfrannu at fas data sirol gwerthfawr. Fel yr arbenigwr lleol, bydd y cofnodwr sirol yn dilysu’r cofnodion a bydd hefyd yn gallu cynnig cyngor a helpu gydag adnabod rhywogaethau. Mae cofnodwyr sirol yn rhoi llawer iawn o amser ac ymdrech yn wirfoddol er mwyn llunio a chasglu bas data sirol manwl gywir. Mae cyfres ddata o’r fath yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
Dyma restr o’rcofnodwyr sirol ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru.
Mae CGBGC yn dibynnu ar gofnodwyr gwirfoddol ar draws y rhanbarth. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cofnodi bywyd gwyllt ond yn ansicr sut mae gwneud hynny, dyma grynodeb byr o’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud cofnod:
- Pwy – enw’r cofnodwr
- Beth – pa rywogaethau a welwyd, os yn ansicr, tynnwch lun neu nodi disgrifiad ar ddarn o bapur
- Ble – ble’r oedd y rhywogaeth, enw’r lleoliad yn ogystal â chyfeirnod grid os yn bosib, po fwyaf manwl ydi hyn, y gorau
- Pryd – dyddiad gweld y rhywogaeth
- Sylwadau – nid yw sylwadau’n hanfodol ond maent yn gallu bod yn ddefnyddiol – ai gwryw ynteu benyw oedd y rhywogaeth, sut roedd yn ymddwyn, faint ohonynt oedd yno.
Yn CGBGC, rydym yn gwerthfawrogi pob cofnod, boed am rywogaeth gyffredin a welir bob dydd neu rywogaeth hynod brin yn y rhanbarth. Rydym yn teimlo bod rhywogaethau cyffredin wedi’u tangofnodi yn y rhanbarth ond yn teimlo ei bod yr un mor bwysig gwybod beth sy’n digwydd i’n rhywogaethau mwy cyffredin yn ogystal â’r rhai prin a’r rhai o dan warchodaeth.
Mae CGBGC yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gofnodwyr lleol, gan gynnwys:
meddalwedd cofnodi a chyngor TG
- digideiddio cofnodion papur
- help gyda chynhyrchu canllawiau ac atlasau
- fforwm cofnodwyr blynyddol
- dyddiau cofnodi
- dyddiau hyfforddi ar gyfer adnabod a hyfforddi
Y Broses Gofnodi
Mae’n rhaid i’r data rydym yn ei gadw ac yn ei ddefnyddio fod yn fanwl gywir ac yn ddibynadwy. Er mwyn ein helpu ni i gynnal ansawdd y wybodaeth yma, mae’r data rydym yn ei dderbyn yn mynd drwy broses o ddilysu a gwirio.
Dilysu
Mae dilysu’n cynnwys gwirio dyddiad y data, ei gyfeirnod grid a chadw llygad am fathau eraill o gamgymeriadau.
- Cyfeirnodau grid: mae’r data’n cael eu mapio ac mae’r cofnodion yn cael eu gwirio yn erbyn enwau lleoliadau, fel archwiliad ar y pryd.
- Dyddiadau: mae’r rhain yn cael eu harchwilio am unrhyw gamgymeriadau amlwg ac er mwyn eu cynnwys ym mas data Recorder6, mae’n rhaid iddynt fod yn fformat penodol, felly gwneir y rhan fwyaf o archwiliadau yn ystod y broses fformatio. Bydd R6 yn tynnu sylw at rai camgymeriadau gyda dyddiadau wrth fewnforio.
- Rhywogaethau: mae unrhyw gamgymeriadau sillafu/teipio yn cael eu dileu wrth gynnwys yn R6, gan fod enwau’r rhywogaethau’n cael eu gwirio yn erbyn geiriadur mewnol.
Gwirio
Mae gwirio yn gadarnhad gan arbenigwr bod rhywogaeth wedi cael ei hadnabod yn gywir. Fel rheol, mae cofnodwr sirol y grŵp tacsonomaidd perthnasol yn gwneud hyn. Mae’r rhan fwyaf o ddata rydym yn eu derbyn a heb fod oddi wrth y cofnodwr sirol yn cael eu hanfon ato i gael eu gwirio. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, nid yw’n bosib, neu mae’n ddiangen, anfon cofnodion helaeth iawn yn aml at gofnodwyr sirol rhag ofn, a gyda rhai grwpiau tacsonomaidd, efallai nad oes cofnodwr sirol ar gael i wirio’r cofnodion.
Yn 2011, fe wnaethom ddechrau dosbarthu’r cofnodion sydd gennym ni gan ddefnyddio’r mathau canlynol o benderfyniadau neu lefelau dilysu:
- Anghywir: lle mae arbenigwr wedi asesu’r cofnod ac wedi penderfynu bod rhaid iddo fod yn anghywir. Nid yw cofnodion anghywir yn cael eu defnyddio.
- Heb eu hasesu: cofnodion heb eu hanfon ar gyfer eu dilysu, neu wedi’u hanfon ac yn disgwyl ymateb.
- Heb eu cadarnhau: cofnodion wedi cael eu hasesu ond mae rhywfaint o amheuaeth yn eu cylch, er enghraifft, dim digon o wybodaeth.
- Credir eu bod yn gywir: lle mae’r cofnodwr sirol yn meddwl eu bod yn gywir fwy na thebyg, neu CGBGC yn credu eu bod wedi dod o ffynhonnell ddibynadwy (e.e. ar gyfer rhai cofnodion, nid oes cofnodwr sirol).
- Cywir: y cofnodion wedi cael eu rhoi gan gofnodwr sirol neu, yn absenoldeb un, arbenigwr arall, fel tacsonomydd amgueddfa.
Dwysedd unigol cofnodion sirol
Dwysedd cofnodion Sir Gaerfyrddin
Sir Gaerfyrddin sgwariau 1km ‘sero cofnod’