Gallwch rannu eich cofnodion am fywyd gwyllt Cymru’n gyflym ac yn hawdd nawr gan ddefnyddio Ap LERC Cymru! Dilynwch y camau isod i ddechrau arni.
1. Lawrlwythwch yr ap drwy ddilyn y dolenni isod neu chwilio am “LERC Wales” yn y storfa berthnasol
Google Play ar gyfer dyfeisiadau Android
https://play.google.com/store/apps/details?id=uk.ac.ceh.lercwales
App Store ar gyfer dyfeisiadau Apple
https://itunes.apple.com/gb/app/lerc-wales/id1353170866?mt=8
2. Agorwch yr Ap a dewis eich iaith (Cymraeg neu Saesneg).
3. Bydd rhaid i chi fod â chyfrif iRecord i ddechrau cyflwyno data; dewiswch ‘Mewngofnodi’ neu ‘Cofrestru’ o’r ddewislen ar y chwith i ddechrau arni.
Cyngor Call: Os oes gennych chi gyfrif ar-lein eisoes gyda safleoedd cofnodi ar-lein BIS, SEWBReC neu WWBIC, gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost i gysylltu eich cyfrifon. Mae safle cofnodi ar-lein Cofnod yn defnyddio gwahanol dechnoleg ac ni ellir ei gysylltu.
4. Os ydych chi’n cofrestru cyfrif newydd, bydd rhaid i chi edrych ar eich e-bost am ddolen cadarnhau. Cliciwch ar y ddolen i weithredu eich cyfrif. Cofiwch gysylltu â’ch LERC os na fydd yr e-bost yn cyrraedd neu os cewch unrhyw anawsterau eraill gyda sefydlu eich cyfrif.
Cyngor Call: Gall yr e-bost cadarnhau fynd i’ch ffolder sbam.
Ar ôl sefydlu eich cyfrif a mewngofnodi, gallwch ddechrau cofnodi! I ychwanegu cofnod, pwyswch y botwm plws (+) yn y gornel dde uchaf a byddwch yn mynd i’r geiriadur rhywogaethau (Saesneg yn unig). Dechreuwch deipio enw cyffredin neu Ladin y rhywogaeth a bydd rhestr o opsiynau’n ymddangos (gwelir isod ar y chwith).
Cyngor Call: Gallwch ddefnyddio’r ‘wildcard’ “. “ os cewch anhawster dod o hyd i rywogaeth.
Ar ôl i chi ddewis y rhywogaeth, bydd eich cofnod yn ymddangos yn yr hafan (gwelir uchod ar y dde).
Cliciwch ar y cofnod a gallwch ychwanegu neu ddiwygio sawl darn o wybodaeth i deilwra’r cofnod (gwelir isod ar y dde)
Lleoliad: Ychwanegwch enw lleoliad ar gyfer eich cofnod. Gellir ychwanegu’r cyfeirnod grid yn awtomatig o GPS eich ffôn; gallwch anwybyddu hwn yn rhyngwyneb y map os oes angen (gwelir uchod ar y dde).
Dyddiad: Bydd yn llenwi’n awtomatig fel dyddiad heddiw, ond gallwch anwybyddu hyn drwy glicio drwodd i’r calendr.
Sylwadau / Nifer / Cam / Dulliau Adnabod: Cliciwch ar y rhesi hyn os hoffech ychwanegu gwybodaeth fel ymddygiad magu, cyfrif unigol, neu enw(au) unrhyw un wnaeth eich helpu gydag adnabod y rhywogaeth.
Lluniau: Mae’n hawdd ychwanegu lluniau at eich cofnodion drwy glicio ar eicon y camera yn y gornel isaf ar y chwith (gwelir isod ar y chwith).
Pan rydych yn hapus gyda holl fanylion y cofnod, cliciwch ar symbol gwyrdd yr awyren bapur yn y gornel uchaf ar y dde (gwelir uchod ar y dde). Bydd hyn yn golygu bod eich cofnod yn hedfan i fas data LERC!
Cyngor Call: Gallwch aros tan yn nes ymlaen cyn clicio ar yr awyren bapur a rhannu eich cofnod, er enghraifft, os ydych mewn ardal heb signal ffôn symudol.
Cyngor Call: Cyn cyflwyno gallwch ddileu cofnod drwy lusgo eich bys i’r chwith a chlicio ar eicon y bin sbwriel. Ar ôl i chi gyflwyno cofnod, dim ond drwy fewngofnodi i iRecord neu safle cofnodi ar-lein LERC allwch chi olygu neu ddileu cofnod.