Ap LERC Cymru

Gallwch nawr rannu eich cofnodion bywyd gwyllt Cymreig yn gyflym ac yn hawdd trwy Ap LERC Cymru! Dilynwch y camau isod i ddechrau.

Dechreuwch gydag Ap LERC Cymru…

1. Lawrlwythwch yr ap trwy ddilyn y dolenni isod neu chwilio am “LERC Wales” yn y siop berthnasol

2. Agorwch yr Ap a dewiswch eich iaith (Cymraeg neu Saesneg) drwy fynd i Ap > Iaith > Cymraeg.

               

3. Bydd angen cyfrif iRecord arnoch i ddechrau cyflwyno data; dewiswch Mewngofnodi neu Cofrestru o’r ddewislen ar y chwith i ddechrau.

Cyngor Da: Os oes gennych chi gyfrif ar-lein eisoes gyda gwefannau recordio ar-lein BIS, SEWBReC neu WWBIC, gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost, enw defnyddiwr a chyfrinair i gysylltu’ch cyfrifon. Mae safle cofnodi ar-lein Cofnod yn defnyddio technoleg wahanol ac ni ellir ei gysylltu.

4. Os ydych yn cofrestru cyfrif newydd, bydd angen i chi wirio’ch e-bost am ddolen cadarnhau. Cliciwch ar y ddolen i actifadu eich cyfrif. Cysylltwch â’ch CCALl os na fydd yr e-bost yn cyrraedd neu os oes gennych unrhyw broblemau eraill wrth sefydlu’ch cyfrif.

Cyngor Da: Efallai y bydd yr e-bost cadarnhau yn mynd i’ch ffolder sbam.

Ychwanegu cofnod

                                            

To add a record, hit the green plus sign at the bottom centre (shown above left) and you will be taken to the species dictionary. Start typing in the common or Latin name of the species, and a list of options will appear (shown above right).

Top Tip: You can use the wild card “. “ if you have trouble finding a species.

I ychwanegu cofnod, tarwch yr arwydd gwyrdd plws (+) yn y canol gwaelod (a ddangosir uchod ar y chwith) ac fe’ch cymerir i’r geiriadur rhywogaethau. Dechreuwch deipio enw y rhwogaeth, cyffredin neu Ladin, a bydd rhestr o opsiynau yn ymddangos (a ddangosir uchod ar y dde).

Cyngor Da: Gallwch ddefnyddio’r cerdyn gwyllt “. “ os ydych yn cael trafferth dod o hyd i rywogaeth.

                                            

Unwaith y byddwch wedi dewis y rhywogaeth, bydd eich cofnod yn ymddangos ar y sgrin gartref (a ddangosir uchod ar y chwith). Cliciwch ar y cofnod a gallwch ychwanegu neu newid sawl darn o wybodaeth am y cofnod (dde uchod).

                                            

Lleoliad: Ychwanegwch enw lleoliad ar gyfer eich cofnod. Gellir ychwanegu’r cyfeirnod grid yn awtomatig gan defnyddio GPS eich ffôn; gallwch ddiystyru hyn yn y rhyngwyneb map os oes angen (dangosir uchod ar y chwith).

Dyddiad: Bydd hwn yn mynd i mewn yn awtomatig fel dyddiad heddiw, ond gallwch ddiystyru hyn trwy glicio drwodd i’r calendr.

Sylwadau / Niferoedd / Cam / Adnabyddwr: Cliciwch ar y rhesi hyn os hoffech ychwanegu gwybodaeth megis ymddygiad bridio, cyfrif unigol, neu enw(au) unrhyw un a’ch helpodd i adnabod rhywogaethau

Lluniau: Gallwch ychwanegu lluniau yn hawdd at eich cofnodion trwy glicio ar yr eicon camera yn y gornel chwith isaf (a ddangosir uchod ar y dde).

                                              

Unwaith y byddwch yn hapus gyda holl fanylion y cofnod, cliciwch ar UWCHLWYTHO yn y gornel dde uchaf (a ddangosir uchod ar y chwith). Bydd hyn yn anfon eich cofnod i gronfa ddata LERC Cymru!

Cyngor Da: Gallwch aros tan yn ddiweddarach i gyflwyno’ch cofnod, er enghraifft os ydych mewn ardal heb signal symudol.

Cyngor Da: Cyn uwchlwytho gallwch ddileu cofnod trwy droi i’r chwith a chlicio DILEU (a ddangosir uchod ar y dde). Unwaith y bydd cofnod wedi’i lwytho i fyny dim ond trwy fewngofnodi i iRecord neu safle recordio ar-lein eich LERC y gallwch chi ei olygu neu ei ddileu.