Ydych chi wedi gweld y Wenynen hon?
Mae’r Gacynen y Llus (Bombus monticola) yn un o’n cacwn mwyaf prydferth! Fel awgrymir gan yr enw, gellir dod o hyd iddo yn bennaf o fewn ardaloedd lle mae Llus yn tyfu ar ucheldiroedd a rhostiroedd y DU, gan gynnwys Cymru. Am fwy o wybodaeth gweler y tudalen Rhywogaeth BBCT.
Pam ydym ni’n chwilio amdano?
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Cacwn y Llus yn prinhau yn y DU, mwy na thebyg o ganlyniad i golled cynefinoedd. Yng Nghymru, mae cofnodion yn dangos gostyngiad yn amrediad Cacwn y Llus, sy’n dangos dirywiad tebyg i weddill y DU.
Rydyn ni angen mwy o gofnodion o ble mae Cacwn y Llus, a dyna le rydych chi’n dod i mewn! Mae pob cofnod a welwyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth a chadwraeth o’r rhywogaeth yn y dyfodol.
Sut gallwch chi helpu?
Fel rhan o ‘Sgiliau Gwenyn Cymru’, prosiect tair blynedd a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, rydym yn lansio Helfa Cacwn y Llus Cymru Gyfan (#BBBHunt), lle gall unrhyw un gymryd rhan, heb unrhyw wybodaeth arbenigol benodol. Rydyn ni’n gofyn i bobl trosglwyddo eu gweliadau o Gacwn y Llus, tra allan yng Nghymru yn 2022.
Adnabod y Gacynen y Llus
Mae Cacynen y Llus yn bryfyn trawiadol iawn gydag abdomen oren-goch llachar (bron i’w ganol) a choler felen y tu ôl i’w ben. Edrychwch yma am fideo 5 munud ar y nodweddion adnabod allweddol a sut i’w gwahaniaethu oddi wrth rywogaethau tebyg.
Hefyd, dyma fideo o Gacynen y Llus gan Tim Griffiths.
Dod o hyd i Gacwn y Llus
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r rhywogaeth hon yn gysylltiedig ag ardaloedd lle mae clystyrau da o Lus, sy’n blodeuo o tua diwedd Ebrill i ddechrau Mehefin. Mae’r breninesau’n dueddol o ddod i’r amlwg pan fydd y llus yn ei flodeuo, gyda gweithwyr yn ymddangos tua mis Mai a mis Mehefin, a’r gwrywod ychydig yn ddiweddarach tua Gorffennaf ac Awst. Gellir dod o hyd i’r breninesau yn arbennig yn bwydo ar lus er y bydd y gweithwyr a’r gwrywod yn cael eu denu at flodau eraill gan gynnwys meillion, mwyar, grug a throed y iâr.
I’ch helpu gyda’ch chwiliad rydym wedi creu dau fap rhyngweithiol – un ar gyfer Llus ac un ar gyfer Cacwn y Llus.
Os edrychwch ar y mapiau ochr yn ochr gallwch ganolbwyntio ar ardaloedd sydd â chofnodion Llus ond heb gofnodion Cacwn y Llus! Efallai y dewch o hyd i lecyn newydd i’r wenynen! Yn y bôn, mae’n werth edrych ar ardaloedd ucheldir gyda Llus a blodau eraill ynghyd â rhostiroedd arfordirol!
Cyflwyno’ch cofnodion
Cyflwynwch eich cofnodion gan ddefnyddio Ap LERC Cymru neu gallwch eu cyflwyno ar-lein i un o’n Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (gweler y map isod i ddod o hyd i’ch Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol a’i thudalen we).
Mae pob CCALl hefyd wedi nodi sgwariau grid â blaenoriaeth er mwyn i gofnodwyr hela am y wenynen. Gellir dod o hyd i’r rhain trwy glicio ar y dolenni CCALl ar y map.
Ceisiwch gyflwyno llun o’r wenynen gyda’r cofnod gan fod hynny’n ein helpu i wirio ei fod yn gywir!
Rydyn ni’n gobeithio eich bod yn cymryd rhan a chadw llygad am y rhywogaeth wych hon yng Nghymru’r haf hwn! Pob lwc ac os oes gennych chi gwestiynau am gacwn yng Nghymru, cysylltwch â Clare Flynn, Swyddog prosiect Sgiliau i Wenyn Cymru.