Amdanom Ni

Rydym wedi drafftio dogfen wybodaeth sy’n manylu pwy ydym ni fel eich Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol, a sut y gallwn eich cefnogi. Lawrlwythwch isod os gwelwch yn dda:

Gwybodaeth

Rydym yn un o bedair Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol yng Nghymru. Rydym yn cwmpasu siroedd Caerfyrddin (yn eithrio’r ardal y tu mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), Ceredigion a Sir Benfro.

Rydym yn casglu, coladu a lledaenu gwybodaeth bioamrywiaeth ar gyfer y rhanbarth. Rydym yn rheoli cronfa ddata o 3.3 miliwn o gofnodion ac yn ymateb i ceisiadau wybodaeth gan awdurdodau leol, cyrff llywodraeth ac ymgynghorwyr preifat ymhlith eraill. Rydym hefyd yn gwneud gwaith prosiect ac yn gweithio’n agos gyda’r gymuned recordio.

Rydym yn dibynnu ar y gymuned recordio, y rhan fwyaf ohonynt yn wirfoddolwyr, i rannu eu cofnodion gyda ni fel y gallwn adeiladu cronfa ddata o gwybodaeth rywogaethau. Mae hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth hanfodol i helpu i roi bioamrywiaeth wrth wraidd y broses wneud penderfyniadau. Rydym hefyd yn dal gwybodaeth am gynefinoedd a safleoedd gwarchodedig.

Mae’r pedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol yng Nghymru yn cydweithio fel consortiwm o dan faner CCALl Cymru.

Gallwn eich cefnogi trwy ddarparu

  • Hyfforddiant Cofnodi Biolegol
    bydd hyn yn eich helpu i wneud y gorau o’n hadnoddau, a ddod yn well cofnodwr bywyd gwyllt

  • Hyfforddiant Adnabod Rhywogaethau
    rydym wedi coladu amrywiaeth o fideos ar ein sianel YouTube, llawn gwybodaeth i wella eich sgiliau adnabod rhywogaethau

  • Dyddiau Cofnodi
    cyfle i Gofiadurwyr y Sir (yr arbenigwyr lleol) gofnodi ar eich tir gan greu rhestr o rywogaethau o’r hyn a welwyd ar y diwrnod

  • Gwasanaethau mapio
    Mapiau o’ch ardal wedi’u nodweddu gyda sylwadau bioamrywiaeth; cofnodion rhywogaethau, safleoedd gwarchodedig a chynefinoedd lled-naturiol.

Aderyn

Archwiliwch ddata ar draws pob un o’r pedwar CCALl yng Nghymru ar y tab mynediad cyhoeddus:

  • Beth sy’n fy ardal i?
    lawrlwythwch restr o rywogaethau o’r holl gofnodion o gyfeirnod grid neu gôd post

  • Mapiau Dosbarthiad Rhywogaethau
    map rhyngweithiol â chôd lliw sy’n dangos nifer y cofnodion fesul 10km sgwâr ledled Cymru

Recordio

Cyfrannwch at ein cronfa ddata gynyddol o wybodaeth am fywyd gwyllt. Cofnodwch yr hyn a welwch gan ddefnyddio Ap LERC Cymru neu WWBIC ar-lein. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr! Rydyn ni eisiau cofnodion o bob rhywogaeth!