Hanes

Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru

Rydyn ni’n un o bedair Canolfan Gofnodi Leol sydd, gyda’i gilydd, yn gweithio fel cyfleuster storio a rheoli data bioamrywiaeth ar gyfer Cymru gyfan. Mae gan bob canolfan ardal ranbarthol yn y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol ac maent wedi’u diffinio fel a ganlyn:

Gwasanaeth dielw sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth er budd y cyhoedd, sy’n casglu, yn rheoli ac yn dosbarthu gwybodaeth o ansawdd am fywyd gwyllt, safleoedd bywyd gwyllt a chynefinoedd ar gyfer ardal ddaearyddol benodol.

West Wales Biodiversity Information Centre

Mae swyddfa CGBGC ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf

Mae CGBGC yn gofalu am weithgarwch cofnodi biolegol mewn ardal sy’n rhyw 5650km2. Mae hyn yn cynnwys Is Siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i gyd, ac eithrio’r sector Dwyreiniol bychan yn y sir sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – mae’r ardal hon yng ngofal canolfan Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth gyfagos (sy’n rhoi sylw i Fannau Brycheiniog a Phowys).

Mae’r gwaith o sefydlu’r Ganolfan Gofnodi wedi cael cefnogaeth CNC a defnyddwyr pwysig eraill y bas data, gan gynnwys Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Cynllunio Lleol. Mae’r partneriaid cyllido hyn angen data biolegol er mwyn cyflawni eu gofynion statudol – mae’n rhaid iddynt ‘ystyried’ cadwraeth bioamrywiaeth wrth gynnal eu gweithgareddau cynllunio a rheoli tir.

Nid yw CGBGC yn ‘berchen’ ar ei data, ond mae wedi cael caniatâd gan berchnogion y data i’w defnyddio’n gyfrifol. Rydym yn codi ffioedd priodol am gasglu a fformatio cyfresi data a bodloni ceisiadau am ddata.

Mae pob Is Sir yn faes gweithredu ar gyfer cofnodwyr biolegol, ac mae un ohonynt yn cael ei benodi’n ‘Gofnodwr Sirol’ ar gyfer grŵp tacson penodol. Rôl y Cofnodwr Sirol yw dilysu’r cofnodion sy’n dod i mewn.

Mae CGBGC yn gweithio’n agos â’r Cofnodwyr Sirol hyn er mwyn gwarchod ansawdd y data. Mae CGBGC yn chwarae rhan weithredol mewn cefnogi’r gymuned gofnodi, gyda fforymau, help technegol, dadansoddi data a mapio.

Yn ychwanegol at gofnodion am rywogaethau a gedwir fel data pwyntiau mewn systemau gwybodaeth daearyddol, mae gan CGBGC ddata helaeth am rywogaethau sydd wedi’u dynodi’n statudol ac yn lleol ac am gynefinoedd. Mae’r rhain i gyd wedi’u storio fel data polygon yn y System Wybodaeth Ddaearyddol.

Mae gan CGBGC gasgliad eang o feddalwedd y System Wybodaeth Ddaearyddol a chaledwedd cyfrifiadurol, gyda system cefnogi data er diogelwch. Felly, mae’r data bioamrywiaeth yn cael eu trin mewn cyfleuster arbenigol iawn, ac mae llawer iawn, iawn o wybodaeth ar gael yn hwylus i chwilio drwyddi.

Gwasanaeth craidd y Ganolfan Gofnodi Leol yw darparu adroddiadau ar rywogaethau o dan warchodaeth a chynefinoedd a safleoedd ar gyfer ardal benodol.

Treulir llawer o oriau gwaith y Ganolfan yn adrodd yn ôl ar geisiadau cynllunio, ar ddatblygiadau ar raddfa fawr yn y dyfodol, ac ar safleoedd cynnal a chadw peirianneg, i sicrhau nad yw’r gweithgareddau a ganiateir yn cael effaith anghyfreithlon neu ddiangen ar fywyd gwyllt agored i niwed.

Gyda gallu eang y System Wybodaeth Ddaearyddol, mae’r Canolfannau Cofnodi Lleol yn gallu cynnig gwasanaethau uwch hefyd, gan gynnwys rheoli data ar gyfer trydydd parti, a dadansoddiadau. Er enghraifft, mae CGBGC wedi: helpu i ddarparu gwybodaeth gryno am atyniadau bywyd gwyllt ar gyfer twristiaeth gynaliadwy; rheoli data hamdden ar gyfer Fforwm Arfordirol Sir Benfro; a mapio cynefin addas ar gyfer y Cudyll a’r Llygoden Ddŵr.

Ers 2015, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r tri LRCs arall yng Nghymru fel consortiwm, y rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o LERCs yn y DU, a elwir yn Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru, sydd â’r nod o ddarparu gwybodaeth fioamrywiaeth ddi-dor i Gymru gyfan. Mae Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) yn gweithredu yn y De, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru (Cofnod) yn y Gogledd ac mae Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BIS) yn gwasanaethu Canolbarth Cymru. Mae’r CCALl yn cydweithio’n agos ac mae ganddynt Weledigaeth ar y Cyd.

Os oes gennych chi gofnodion i’w cyflwyno, anfonwch nhw at ein Uwch Rheolwr Data, Kate Smith, ar e-bost: kate@wwbic.org.uk neu drwy’r post: CGBGC, Canolfan Fusnes Landsger, Llwynybrain, Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin SA34 0NG neu ffoniwch: 01994 241468.