Mae’r map yma’n dangos rhanbarth CGBGC, sy’n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.
Nid yw’r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n ymestyn i ran ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin wedi’i gynnwys, gan ei fod yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae gan Ranbarth Gorllewin Cymru gyfoeth o safleoedd wedi’u gwarchod, gan gynnwys unig warchodfa Biosffer Cymru, Aber Afon Dyfi, sy’n ffinio â Cheredigion a Gwynedd, a’r unig Warchodfa Natur Forol, o amgylch Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro.
Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnwys cynefinoedd hynod arwyddocaol ar gyfer ein rhanbarth. Mae systemau aberol Bae Caerfyrddin a Chilfach Tywyn, y glaswelltiroedd arfordirol a’r corstiroedd yn safleoedd pwysig i adar mudol a’r infertebrata maent yn bwydo arnynt. Mae dyfroedd agored Bae Caerfyrddin yn safle gaeafu i bron i hanner poblogaeth y DU o’r Fôr-hwyaden ddu. I mewn am y tir, mae Dyffryn Afon Tywi a’r cynefinoedd coediog mawr yn yr ucheldir yn gartref i amrywiaeth o famaliaid, gan gynnwys y Wiwer Goch Ewrasiaidd a Bele’r Coed fwy na thebyg. Mae rhosydd agored, rhostir, corstir a gorgorsydd yn hanfodol i lu o blanhigion ac infertebrata, fel glöyn byw brith y gors a’r morgrug cors du prin iawn. Mae llawer o’r cynefinoedd hyn yn safleoedd sydd wedi’u dynodi’n statudol ac wedi’u rhestr ar y tudalennau ar gyfer rhywogaethau dan warchodaeth pages.
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn mynd ati i warchod y cynefinoedd hyn a rhai rhywogaethau. Ewch i dudalennau bioamrywiaeth gwefan Cyngor Sir Gaerfyrddin. Cydlynydd y Bartneriaeth yw Isabel Macho.
Mae gan Geredigion amrywiaeth eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig, gan gynnwys un o ddim ond dwy warchodfa biosffer yn y DU, aber afon Dyfi. I mewn am y tir, ceir cynefinoedd tebyg i Sir Gaerfyrddin drws nesaf, gydag ardaloedd eang o rostir, rhosydd llaith a chorgors. Roedd Ceredigion yn ardal bwysig yng nghamau cynnar llwyddiant cadwraeth y Barcud Coch ac, ar yr arfordir, mae poblogaethau sylweddol o’r frân goesgoch.
Mae Bae Ceredigion (Ardal Cadwraeth Arbennig forol) yn gartref i lamhidydd yr harbwr, y dolffin trwyn potel a morlo llwyd yr Iwerydd. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion yn mynd ati i warchod y cynefinoedd hyn a rhai rhywogaethau. Ewch i dudalennau arfordir a chefn gwlad gwefan Cyngor Sir Ceredigion.
Os ydych chi wedi gweld rhywbeth diddorol yng Ngheredigion, cofiwch roi gwybod i Leanne Bird, y Swyddog Bioamrywiaeth. Cliciwch Yma am wybodaeth gyswllt bwysig a hefyd y fformat a argymhellir ar gyfer y data.
Mae Sir Benfro’n bwysig yn rhyngwladol am ei chynefinoedd arfordirol, morol a rhostir helaeth, a’i dŵr croyw a’i choetiroedd. Mae’r cynefinoedd hyn yn gartref i nifer fawr o rywogaethau, gyda rhai ohonynt ond i’w gweld yn Sir Benfro, neu rywogaethau y mae’r sir yn un o ddim ond llond dwrn o safleoedd lle maent i’w gweld yn y DU neu yn Ewrop. Nid yw rhai rhywogaethau sydd o dan warchodaeth, fel yr ystlum a’r dylluan wen, wedi’u cyfyngu i safleoedd wedi’u dynodi nac i gynefinoedd allweddol, ac mae cysylltiad agos rhyngddynt a strwythurau o wneuthuriad dyn. Mae rhywogaethau eraill, fel adar môr a brain coesgoch, yn cyfrannu at wneud Sir Benfro’n ardal nodedig ac maent yn “arwydd” da o gyflwr cyffredinol yr amgylchedd.
Adlewyrchir arwyddocâd rhyngwladol a chenedlaethol bioamrywiaeth Sir Benfro gan y ffaith bod tua 6% o holl arwynebedd y tir mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae yma wyth Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Ceir nifer o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a sawl Ardal Cadwraeth Arbennig ar y tir, wedi’u dynodi o dan Gyfarwyddyd Adar a Chyfarwyddyd Cynefinoedd a Rhywogaethau yr UE. Mae’r arfordir ac ecosystemau’r môr yn bwysig iawn yn Sir Benfro, gyda’r arfordir yn 259 km o hyd. Mae’r mwyafrif yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae’r tirlun yn amrywio o arfordir trawiadol i fryniau agored, dyffrynnoedd, coetiroedd, ac afonydd diarffordd gyda choed ar y naill ochr iddynt. Mae’r dyfroedd morol sydd wedi’u gwarchod o amgylch Sir Benfro’n cynnwys Gwarchodfa Natur Forol Sgomer a thair Ardal Cadwraeth Arbennig forol. Mae gwarchod yr ardaloedd yn y safleoedd dynodedig hyn a thu hwnt iddynt yn fwy hanfodol fyth nag mewn cynefinoedd ar y tir, er mwyn gwneud yn siŵr bod bioamrywiaeth y môr yn cael ei chynnal a’i gwella.
Felly, mae Sir Benfro’n eithriadol bwysig ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd prin o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Fodd bynnag, mae’r tirlun ehangach o dir amaethyddol a gofod trefol yn hanfodol bwysig hefyd i rywogaethau a chynefinoedd mwy cyffredin ac maent yn cyfrannu’n sylweddol at gynnal yr holl fioamrywiaeth yn y sir. Mae coridorau bywyd gwyllt mewn ardaloedd adeiledig neu mewn ardaloedd a ddefnyddir yn eang ar gyfer amaethyddiaeth yn darparu ardaloedd parhaus pwysig i blanhigion ac anifeiliaid symud drwyddynt. Mae tir isel, glaswelltiroedd, afonydd, cronfeydd dŵr a hyd yn oed adeiladau i gyd yn gallu cyfrannu at fioamrywiaeth. Mae blodau mwy cyfarwydd y gwrychoedd ac adar mwy cyfarwydd yr ardd yn “arwyddion” hefyd o gyflwr cyffredinol y cynefinoedd a’u bywyd gwyllt.
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro yn mynd ati i warchod y cynefinoedd hyn a rhai rhywogaethau. Cydlynydd y Bartneriaeth yw Ant Rogers.