Mae gwybodaeth yn cael eu rhannu â CCBGC yn wirfoddol . Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n rhannu data gyda ni.
Mae pob set ddata a gawn yn mynd trwy weithdrefn ddilysu.
Mae’n cael ei fewnbunny i brif gronfa ddata rhywogaethau CGBGC fel ‘heb ei asesu’ a’i ddosbarthu i’r Is-gofnodwr Sirol perthnasol i’w ddilysu. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cynnal ansawdd y wybodaeth rydym yn ein cronfa ddata ac yn ei defnyddio yn ein proses adrodd.
Mae’r data sydd gennym wedi cynyddu’n raddol o’r 43,000 o gofnodion pan ddechreuwn fel Canolfan Cofnodion Lleol yn 2007. Ar hyn o bryd mae CGBGC yn cadw 4 miliwn o gofnodion rhywogaethau (ym mis Mawrth 2022) o’n rhanbarth yn ein prif gronfa ddata adrodd sy’n cynnwys rhywogaethau o 9 grwpiau tacsonomaidd mawr.
Gallwch weld cofnodion bywyd gwyllt sydd wedi’u casglu gan y pedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol, sy’n cynrychioli Cymru gyfan, ar ein cronfa ddata ar-lein Aderyn (Cronfa Ddata Gwybodaeth a Chofnodi Bioamrywiaeth Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru).
Dwysedd unigol cofnodion sirol
Dwysedd cofnodion Sir Gaerfyrddin
Sir Gaerfyrddin sgwariau 1km ‘sero cofnod’
Sgwariau 1km ‘sero cofnod’ yng Ngheredigion
Sir Benfro sgwariau 1km ‘sero cofnod’
Cyfresi Data Rhywogaethau a dderbyniwyd gan CGBGC fesul Blwyddyn