Colin Russell, Rheolwr y Ganolfan
Ymunodd Colin â CGBGC yn 2008 ac mae ei gyfrifoldebau, yn ogystal â rheoli pob agwedd ar y ganolfan, yn cynnwys cysylltu â phartneriaid cyllido CGBGC a’r tair Canolfan Gofnodi Leol arall ledled Cymru. Mae safle CGBGC yn y rhwydwaith clos hwn o Ganolfannau’n golygu ei fod ef, fel rheolwr, yn gallu gwneud defnydd o’r profiad sydd ar gael yn y canolfannau eraill, a’i fod yn gallu cyfrannu ar lefel strategol at gyflwyno gwybodaeth bioamrywiaeth o’r safon uchaf er lles y cyhoedd.
Mae gan Colin radd mewn sŵoleg ac mae wrth ei fodd gyda chefn gwlad. Mae ei hobïau dros y blynyddoedd wedi mynd ag o allan i’r awyr agored i ddringo, syrffio ac, yn ddiweddar, hwylio o amgylch arfordir Sir Benfro a Dyfrffordd Haven.
Kate Smith, Uwch Rheolwr Data
Ymunodd Kate â CGBGC yn 2006 ac mae’n gyfrifol am reoli ein bas data o gofnodion biolegol. Mae gan Kate rôl allweddol mewn cynnal safon uchel y wybodaeth bioamrywiaeth rydyn ni’n gallu ei darparu. Fel rhan o’r rôl hon, mae’n gweithio’n agos â chofnodwyr biolegol gwirfoddol a phroffesiynol yn ein rhanbarth, i gasglu, rheoli a dilysu gwybodaeth am rywogaethau.
Mae hobïau Kate yn cynnwys teithio, cerdded a ffotograffiaeth. Mae llawer o’r lluniau rydych chi’n eu gweld ar y wefan yn waith Kate o Orllewin Cymru. Mae wrth ei bodd gyda byd natur, bywyd gwyllt a chadwraeth natur, ac mae’n llawn edmygedd o bobl sydd ag amser a gwybodaeth i wneud cofnodion biolegol mor fanwl gywir a gofalus.
Yusef Samari, Swyddog GIS
Ymunodd Yusef â CGBGC ym mis Hydref 2019 ac mae’n gyfirifol am ymholiadau data, GIS a gwasanaethau mapio, dadansoddiadau data a gwaith prosiect. Mae ganddo BSc mewn Ecoleg o Brifysgol Efrog ac eisioes wedi gweithio am Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, ar brosiectau monitro bioamrywiaeth tymor hir yn yr Alban.
Mae diddordebau Yusef yn cynnwys ceisio dysgu gormod o bethau newydd ar unwaith. Mae ganddo ddiddordeb eang ym mhob agwedd o fioleg a hanes natur. Yn ei amser hamdden mae’n hoffi chwarae gitâr, dysgu rhaglennu cyfrifiadurol ac mae’n hunan-astudio mathemateg Safon Uwch am hwyl.
Carys May, Swyddog Gwybodaeth Bioamrywiaeth a Chyfathrebu
Laura Moss, Cynorthwydd Gwybodaeth Bioamrywiaeth
Ymunodd Laura â CGBGC yn 2021 fel Cynorthwyydd Gwybodaeth Bioamrywiaeth. Mae hi’n gofiadur brwd gyda diddordeb eang mewn byd natur. Mae’n byw ar dyddyn lle mae’n ceisio gwella’r cynefin a chynyddu bioamrywiaeth. Mae hi’n aelod gweithgar o grŵp llywio Grŵp Dolydd Sir Gaerfyrddin ac yn rhedeg y prosiect Big Meadow Search.
Cyfarwyddwr CGBGC
- Jane Hodges (Chair)
- Nigel Ajax-Lewis (Secretary)
- Annie Haycock
- Bob Haycock
- Trevor Theobald
- Lizzie Wilberforce
- Huw Jones
- Chloe Griffiths
- Diana Clark
Fe hoffai CGBGC recriwtio cyfarwyddwyr newydd i’r bwrdd. Byddem yn falch iawn o groesawu pobl o gefndir busnes a TG. Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r profiad a’r sgiliau priodol i fod yn ased i’r cwmni, ac os hoffech chi gyfrannu at y gwaith rydyn ni’n ei wneud fel cyfarwyddwr gwirfoddol, cofiwch gysylltu â’r rheolwr, Colin Russell colin@westwalesbiodiversity.org.uk