{"id":1602,"date":"2014-05-15T15:47:58","date_gmt":"2014-05-15T15:47:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/rhanbarth-gorllewin-cymru\/"},"modified":"2014-05-15T15:47:58","modified_gmt":"2014-05-15T15:47:58","slug":"rhanbarth-gorllewin-cymru","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/pwy-ydym-ni\/amdanom-ni\/rhanbarth-gorllewin-cymru\/","title":{"rendered":"Rhanbarth Gorllewin Cymru"},"content":{"rendered":"<figure class=\"alignright\"><a href=\"http:\/\/wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone\" src=\"http:\/\/wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png\" alt=\"WWBIC region\" width=\"400\" height=\"354\" \/><\/a><\/figure>\n<p>Mae\u2019r map yma\u2019n dangos rhanbarth CGBGC, sy\u2019n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy\u2019n ymestyn i ran ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin wedi\u2019i gynnwys, gan ei fod yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.<\/p>\n<p>Mae gan Ranbarth Gorllewin Cymru gyfoeth o safleoedd wedi\u2019u gwarchod, gan gynnwys unig warchodfa Biosffer Cymru, Aber Afon Dyfi, sy\u2019n ffinio \u00e2 Cheredigion a Gwynedd, a\u2019r unig Warchodfa Natur Forol, o amgylch Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro.<\/p>\n<div id=\"oscitas-efs-tabs-1\" class=\"biodiversity-tabs\"><dl class=\"tabs\" data-tab><dd class=\"active\"><a href=\"#efs-tabpane-1-0\">Bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin<\/a><\/dd><dd class=\"\"><a href=\"#efs-tabpane-1-1\">Bioamrywiaeth yng Ngheredigion <\/a><\/dd><dd class=\"\"><a href=\"#efs-tabpane-1-2\">Bioamrywiaeth yn Sir Benfro<\/a><\/dd><\/dl><div class=\"tabs-content\"><div class=\"content active\" id=\"efs-tabpane-1-0\"><p><\/p>\n<p>Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnwys cynefinoedd hynod arwyddocaol ar gyfer ein rhanbarth. Mae systemau aberol Bae Caerfyrddin a Chilfach Tywyn, y glaswelltiroedd arfordirol a\u2019r corstiroedd yn safleoedd pwysig i adar mudol a\u2019r infertebrata maent yn bwydo arnynt. Mae dyfroedd agored Bae Caerfyrddin yn safle gaeafu i bron i hanner poblogaeth y DU o\u2019r F\u00f4r-hwyaden ddu. I mewn am y tir, mae Dyffryn Afon Tywi a\u2019r cynefinoedd coediog mawr yn yr ucheldir yn gartref i amrywiaeth o famaliaid, gan gynnwys y Wiwer Goch Ewrasiaidd a Bele\u2019r Coed fwy na thebyg. Mae rhosydd agored, rhostir, corstir a gorgorsydd yn hanfodol i lu o blanhigion ac infertebrata, fel gl\u00f6yn byw brith y gors a\u2019r morgrug cors du prin iawn. Mae llawer o\u2019r cynefinoedd hyn yn safleoedd sydd wedi\u2019u dynodi\u2019n statudol ac wedi\u2019u rhestr ar y tudalennau ar gyfer <span style=\"color: #ffffff;\"><strong><a style=\"color: #ffffff;\" href=\"http:\/\/wwbic.org.uk\/data-holdings_protected_sites.asp\">rhywogaethau dan warchodaeth<\/a><\/strong><\/span> pages.<\/p>\n<p>Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn mynd ati i warchod y cynefinoedd hyn a rhai rhywogaethau. Ewch i <span style=\"color: #ffffff;\"><strong><a style=\"color: #ffffff;\" href=\"http:\/\/www.carmarthenshirebiodiversity.co.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">dudalennau bioamrywiaeth gwefan Cyngor Sir Gaerfyrddin<\/a><\/strong><\/span>. Cydlynydd y Bartneriaeth yw Isabel Macho.<\/p>\n<p><\/p><\/div><div class=\"content \" id=\"efs-tabpane-1-1\"><p><\/p>\n<p>Mae gan Geredigion amrywiaeth eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt pwysig, gan gynnwys un o ddim ond dwy warchodfa biosffer yn y DU, aber afon Dyfi. I mewn am y tir, ceir cynefinoedd tebyg i Sir Gaerfyrddin drws nesaf, gydag ardaloedd eang o rostir, rhosydd llaith a chorgors. Roedd Ceredigion yn ardal bwysig yng nghamau cynnar llwyddiant cadwraeth y Barcud Coch ac, ar yr arfordir, mae poblogaethau sylweddol o\u2019r fr\u00e2n goesgoch.<\/p>\n<p>Mae<span style=\"color: #ffffff;\"> <strong><a style=\"color: #ffffff;\" href=\"http:\/\/www.cardiganbaysac.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Bae Ceredigion<\/a>\u00a0<\/strong><\/span>(Ardal Cadwraeth Arbennig forol) yn gartref i lamhidydd yr harbwr, y dolffin trwyn potel a morlo llwyd yr Iwerydd. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion yn mynd ati i warchod y cynefinoedd hyn a rhai rhywogaethau. Ewch i<span style=\"color: #ffffff;\"><strong> <a style=\"color: #ffffff;\" href=\"http:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/index.cfm?articleid=7344\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">dudalennau arfordir a chefn gwlad gwefan Cyngor Sir Ceredigion<\/a><\/strong><\/span>.<\/p>\n<p>Os ydych chi wedi gweld rhywbeth diddorol yng Ngheredigion, cofiwch roi gwybod i Leanne Bird, y Swyddog Bioamrywiaeth. <span style=\"color: #ffffff;\"><strong><a style=\"color: #ffffff;\" href=\"http:\/\/wwbic.org.uk\/documents\/ceredigionrecording.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Cliciwch Yma<\/a> <\/strong><\/span>am wybodaeth gyswllt bwysig a hefyd y fformat a argymhellir ar gyfer y data.<\/p><\/div><div class=\"content \" id=\"efs-tabpane-1-2\"><p><\/p>\n<p>Mae Sir Benfro\u2019n bwysig yn rhyngwladol am ei chynefinoedd arfordirol, morol a rhostir helaeth, a\u2019i d\u0175r croyw a\u2019i choetiroedd. Mae\u2019r cynefinoedd hyn yn gartref i nifer fawr o rywogaethau, gyda rhai ohonynt ond i\u2019w gweld yn Sir Benfro, neu rywogaethau y mae\u2019r sir yn un o ddim ond llond dwrn o safleoedd lle maent i\u2019w gweld yn y DU neu yn Ewrop. Nid yw rhai rhywogaethau sydd o dan warchodaeth, fel yr ystlum a\u2019r dylluan wen, wedi\u2019u cyfyngu i safleoedd wedi\u2019u dynodi nac i gynefinoedd allweddol, ac mae cysylltiad agos rhyngddynt a strwythurau o wneuthuriad dyn. Mae rhywogaethau eraill, fel adar m\u00f4r a brain coesgoch, yn cyfrannu at wneud Sir Benfro\u2019n ardal nodedig ac maent yn \u201carwydd\u201d da o gyflwr cyffredinol yr amgylchedd.<\/p>\n<p>Adlewyrchir arwyddoc\u00e2d rhyngwladol a chenedlaethol bioamrywiaeth Sir Benfro gan y ffaith bod tua 6% o holl arwynebedd y tir mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae yma wyth Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Ceir nifer o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a sawl Ardal Cadwraeth Arbennig ar y tir, wedi\u2019u dynodi o dan Gyfarwyddyd Adar a Chyfarwyddyd Cynefinoedd a Rhywogaethau yr UE. Mae\u2019r arfordir ac ecosystemau\u2019r m\u00f4r yn bwysig iawn yn Sir Benfro, gyda\u2019r arfordir yn 259 km o hyd. Mae\u2019r mwyafrif yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae\u2019r tirlun yn amrywio o arfordir trawiadol i fryniau agored, dyffrynnoedd, coetiroedd, ac afonydd diarffordd gyda choed ar y naill ochr iddynt. Mae\u2019r dyfroedd morol sydd wedi\u2019u gwarchod o amgylch Sir Benfro\u2019n cynnwys Gwarchodfa Natur Forol Sgomer a thair Ardal Cadwraeth Arbennig forol. Mae gwarchod yr ardaloedd yn y safleoedd dynodedig hyn a thu hwnt iddynt yn fwy hanfodol fyth nag mewn cynefinoedd ar y tir, er mwyn gwneud yn si\u0175r bod bioamrywiaeth y m\u00f4r yn cael ei chynnal a\u2019i gwella.<\/p>\n<p>Felly, mae Sir Benfro\u2019n eithriadol bwysig ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd prin o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Fodd bynnag, mae\u2019r tirlun ehangach o dir amaethyddol a gofod trefol yn hanfodol bwysig hefyd i rywogaethau a chynefinoedd mwy cyffredin ac maent yn cyfrannu\u2019n sylweddol at gynnal yr holl fioamrywiaeth yn y sir. Mae coridorau bywyd gwyllt mewn ardaloedd adeiledig neu mewn ardaloedd a ddefnyddir yn eang ar gyfer amaethyddiaeth yn darparu ardaloedd parhaus pwysig i blanhigion ac anifeiliaid symud drwyddynt. Mae tir isel, glaswelltiroedd, afonydd, cronfeydd d\u0175r a hyd yn oed adeiladau i gyd yn gallu cyfrannu at fioamrywiaeth. Mae blodau mwy cyfarwydd y gwrychoedd ac adar mwy cyfarwydd yr ardd yn \u201carwyddion\u201d hefyd o gyflwr cyffredinol y cynefinoedd a\u2019u bywyd gwyllt.<\/p>\n<p>Mae <span style=\"color: #ffffff;\"><strong><a style=\"color: #ffffff;\" href=\"http:\/\/www.biodiversitypembrokeshire.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro<\/a> <\/strong><\/span>yn mynd ati i warchod y cynefinoedd hyn a rhai rhywogaethau. Cydlynydd y Bartneriaeth yw Ant Rogers.<\/p><\/div><\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r map yma\u2019n dangos rhanbarth CGBGC, sy\u2019n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Nid yw\u2019r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy\u2019n ymestyn i ran ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin wedi\u2019i gynnwys, gan ei fod yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gan Ranbarth Gorllewin Cymru gyfoeth o safleoedd wedi\u2019u gwarchod, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/pwy-ydym-ni\/amdanom-ni\/rhanbarth-gorllewin-cymru\/\" class=\"more-link\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Rhanbarth Gorllewin Cymru<\/span> <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1675,"parent":1596,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"page-templates\/full-width.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1602","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rhanbarth Gorllewin Cymru - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rhanbarth Gorllewin Cymru - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae\u2019r map yma\u2019n dangos rhanbarth CGBGC, sy\u2019n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Nid yw\u2019r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy\u2019n ymestyn i ran ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin wedi\u2019i gynnwys, gan ei fod yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gan Ranbarth Gorllewin Cymru gyfoeth o safleoedd wedi\u2019u gwarchod, &hellip; Continue reading Rhanbarth Gorllewin Cymru &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"400\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"354\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/\",\"name\":\"Rhanbarth Gorllewin Cymru - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/05\\\/wwbic-counties.png\",\"datePublished\":\"2014-05-15T15:47:58+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/05\\\/wwbic-counties.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/05\\\/wwbic-counties.png\",\"width\":400,\"height\":354},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/the-west-wales-region\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Amdanom Ni\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Hanes\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/who-we-are\\\/about-us\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":4,\"name\":\"Rhanbarth Gorllewin Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/\",\"name\":\"Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/#organization\",\"name\":\"WWBIC\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/03\\\/WWBIC-logo-w-text.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/03\\\/WWBIC-logo-w-text.png\",\"width\":138,\"height\":140,\"caption\":\"WWBIC\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.wwbic.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rhanbarth Gorllewin Cymru - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rhanbarth Gorllewin Cymru - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru","og_description":"Mae\u2019r map yma\u2019n dangos rhanbarth CGBGC, sy\u2019n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro. Nid yw\u2019r rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy\u2019n ymestyn i ran ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin wedi\u2019i gynnwys, gan ei fod yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gan Ranbarth Gorllewin Cymru gyfoeth o safleoedd wedi\u2019u gwarchod, &hellip; Continue reading Rhanbarth Gorllewin Cymru &raquo;","og_url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/","og_site_name":"Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru","og_image":[{"width":400,"height":354,"url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png","type":"image\/png"}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/","url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/","name":"Rhanbarth Gorllewin Cymru - Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png","datePublished":"2014-05-15T15:47:58+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png","contentUrl":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2014\/05\/wwbic-counties.png","width":400,"height":354},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/the-west-wales-region\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Amdanom Ni","item":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Hanes","item":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/who-we-are\/about-us\/"},{"@type":"ListItem","position":4,"name":"Rhanbarth Gorllewin Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/#website","url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/","name":"Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/#organization","name":"WWBIC","url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/03\/WWBIC-logo-w-text.png","contentUrl":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/03\/WWBIC-logo-w-text.png","width":138,"height":140,"caption":"WWBIC"},"image":{"@id":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1602","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1602"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1602\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1596"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1675"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.wwbic.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1602"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}