Ffurflen Ymholiadau a Rhyddhau Data
Lawrlwytho'r FfurflenCyn y gallwn roi sylw i’ch cais am ddata, rydym yn gofyn i chi lenwi ffurflen syml.
Drwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn rhoi’r wybodaeth y mae arnom ei hangen i ni i ddelio gyda’ch ymholiad ac rydych yn cytuno i’n telerau a’n hamodau, a fydd yn rheoli’r defnydd o’r wybodaeth y byddwn ni’n ei rhoi.
Nid yw CGBGC yn berchen ar ei data ei hun ond mae ganddi awdurdod i reoli a dosbarthu’r wybodaeth er lles y cyhoedd.
Y Data Sydd Ar Gael
- Rhywogaethau a Warchodir a Rhywogaethau Blaenoriaeth: Rhywogaethau dan warchodaeth gyfreithiol yn yr UE a’r DU, rhywogaethau Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymraeg) 2016, rhywogaethau Blaenoriaeth CGB y DU
- Rhywogaethau Eraill o Bryder Cadwriaethol: Rhywogaethau o Bryder Cadwriaethol CGB y DU, Rhywogaethau’r Llyfr Data Coch a Rhywogaethau Cenedlaethol Brin, Rhywogaethau Confensiwn Bonn
- Rhywogaethau o Bwysigrwydd Lleol: LRhywogaethau lleol y CGB, rhywogaethau prin ac anfynych yn lleol (fel sydd wedi’i nodi gan arbenigwyr lleol)
- Pob Rhywogaeth Eraill: yr holl gofnodion eraill a gedwir, gan gynnwys rhywogaethau cyffredin ac eang
- Dynodiadau Statudol: Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfa Biosffer, Gwarchodfa Natur Leol, Gwarchodfa Natur Forol, Gwarchodfa Natur Genedlaethol, Parc Cenedlaethol, Safle Ramsar, Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Dynodiadau Anstatudol: Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur (nid oes unrhyw Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur yn rhanbarth CGBGC)b Rhywogaeth: yr holl gofnodion a gedwir, gan gynnwys rhywogaethau cyffredin ac eang
- Arolwg Cynefin Cam I (cynefinoedd lled-naturiol blaenoriaeth)
- Arolwg Glaswelltir Cam II (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol)
- Arolwg Mawndir Cam II (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol)
- Arolwg Coetiroedd Cam II (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol)
- Rhestr Coetiroedd Hynafol (coetiroedd sydd wedi bod â gorchudd parhaus fel coetir ers canrifoedd) : Coetir Lled-Naturiol Hynafol, Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol, Safle Coetir Hynafol Wedi’i Adfer, Safle Coetir Hynafol o gategori anhysbys
- Cynefinoedd Blaenoriaeth PBC (fel y datblygwyd gan y Grwpiau Ecosystemau a Rhywogaethau Arbenigol)
- Tyrbinau Gwynt (lleoliad cais tyrbin neu gwblhau yn Sir Benfro)
- Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol

Ceisiadau am Ddata
Adroddiadau chwilio penodol i ardal yw’r cynnyrch mwyaf cyffredin y gwneir cais amdano i’r Canolfannau Cofnodi Lleol, ond rydym hefyd yn gallu darparu gwybodaeth fwy cyffredinol ar gyfer y rhanbarth, yn ogystal ag arolygon desg manwl, cwbl bwrpasol. Mae ein hadroddiadau’n gallu cynnwys gwybodaeth am rywogaethau, safleoedd a chynefinoedd statudol ac anstatudol.
Mae Ein Ffioedd yn dibynnu ar natur eich busnes (masnachol neu ddielw), ac ar yr amser mae’n ei gymryd i roi sylw i’ch cais. Mae ein ffioedd yn is i bartneriaid cyllido tymor hir sydd wedi cyfrannu arian grant at sefydlu’r gwasanaeth. Byddwn yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth gyffredinol am fioamrywiaeth ar gael yn rhydd i’r cyhoedd ac i ysgolion, drwy’r tudalennau ar y wefan hon yn bennaf.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ac mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau atom. Os yw eich cais am wybodaeth am fioamrywiaeth yn rhan o arolwg proffesiynol, efallai yr hoffech ystyried rhannu’r data y byddwch yn eu casglu gyda ni.
Drwy wneud hyn, byddwch yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael i eraill ei defnyddio, ac yn cyfrannu at y wybodaeth gyffredinol am fioamrywiaeth.
Nodweddion Sensitif
Mae rhywfaint o’r wybodaeth sydd gennym yn cael ei hystyried yn wybodaeth sensitif gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ei bod yn berthnasol i leoliadau penodol, er enghraifft, safleoedd magu.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhestr o nodweddion sensitif a chyfarwyddyd ar gyfer sut dylid rheoli’r cofnodion hyn. Gellir ei lawrlwytho o’r ddolen yn y golofn ar y chwith ar y dudalen hon. Tynnir sylw at yr holl gofnodion sy’n berthnasol i’r rhywogaethau ar y rhestr hon ar restr rhywogaethau CGBGC sydd wedi’i llunio gan ddefnyddio chwiliad am ddata.