Hafan

Pecyn Cymorth Recordio CGBGC

Adnoddau Adnabod Rhywogaethau

Dod i adnabod bywyd gwyllt – Mae’r canlynol yn grwpio adnoddau adnabod a manylion cynlluniau monitro ar gyfer yr holl brif grwpiau rhywogaethau:




PLANHIGION A CHYSYLLTIADAU PLANHIGION

Planhigion Fasgwlaidd

Mae planhigion yn sail i’r holl gynefinoedd daearol a chadwyni bwyd. Drwy gynaeafu ynni o olau’r haul, maen nhw’n pweru pob ecosystem yn ogystal â darparu cysgod a chynefin i adar, mamaliaid, pryfed, anifeiliaid eraill, a ffyngau. Maen nhw hefyd yn fywyd gwyllt rhyfeddol yn eu rhinwedd eu hunain, gydag amrywiaeth bron yn ddiddiwedd o ffurfiau bywyd a strategaethau goroesi dyfeisgar. Maen nhw’n byw mewn cysylltiad agos ag organebau eraill, ac wrth edrych yn fanwl ar ychydig o blanhigion yn y gwyllt fe fyddant yn datgelu pob math o fywyd arall – llwybrau larfâu deildorrol, ffyngau ‘rhwd’ a ‘phenddu’ lliwgar, afluniadau od neu ardyfiant planhigol, a llawer mwy. Po fanylaf fyddwch chi’n edrych, y mwyaf rydych chi’n debygol o ddod o hyd iddo. Gall darn o ymyl ffordd gynnig oriau o ryfeddod hyd yn oed!

Sefydliadau

Prosiectau

 

 

Adnoddau Adnabod

  • Wild Plants in West Wales (WWBIC) 
    • Datblygwyd y canllaw maes defnyddiol yma fel rhan o’r prosiect i gyflwyno pobl i ddetholiad o rywogaethau cyffredin o blanhigion, yn seiliedig yn fras ar y 100 o blanhigion gorau yn ein cronfa ddata ar draws Rhanbarth Gorllewin Cymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cofnodi ac yn eich cyfeirio chi at ddeunydd darllen pellach.    
  • Plant Sheet (WWBIC) 
    • Cyflwyniad sylfaenol i 16 o rywogaethau sydd i’w canfod yn gyffredin mewn glaswelltiroedd.   

         

Cysylltiadau Planhigion

Mae cysylltiadau planhigion yn rhyngweithiadau cymhleth rhwng planhigion a rhywogaethau amrywiol a all fod â goblygiadau ecolegol ac esblygiadol sylweddol. Mae’r perthnasoedd yma’n cwmpasu ystod eang o ryngweithiadau, gan gynnwys llysysol, peillio, a chydymddibyniaeth, lle mae’r ddwy organeb yn elwa. Er enghraifft, mae llawer o bryfed yn dibynnu ar blanhigion am fwyd, ac mae planhigion yn aml yn dibynnu ar bryfed ar gyfer peillio a gwasgaru hadau. Mae’r cysylltiadau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio ecosystemau, dylanwadu ar ddeinameg cymunedau o blanhigion, a hyrwyddo bioamrywiaeth. Mae deall y rhyngweithiadau hyn yn hanfodol ar gyfer ymdrechion cadwraeth ac arferion amaethyddol, oherwydd gallant effeithio ar gynnyrch cnydau ac iechyd ecosystemau.

Algâu

Mae algâu yn organebau ffotosynthetig syml a geir mewn amgylcheddau amrywiol, yn bennaf mewn lleoliadau dyfrol, yn ddŵr croyw a morol. Maent yn cynnwys ystod eang o rywogaethau, o ffytoplancton ungell i ffurfiau amlgellog mawr fel gwymon. Mae algâu yn chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystemau, gan wasanaethu fel prif gynhyrchwyr sy’n trosi golau’r haul yn ynni drwy ffotosynthesis, sy’n ffurfio sylfaen y we fwyd ddyfrol.

Sefydliad

British Phycological Society

Bryoffytau

Mae bryoffytau yn grŵp o blanhigion anfasgwlaidd sy’n cynnwys mwsoglau, llysiau’r afu, a chornllysiau. Maen nhw’n cael eu nodweddu gan eu maint bach, eu strwythurau syml, a’u dibyniaeth ar ddŵr ar gyfer atgenhedlu. Mae bryoffytau’n chwarae rôl ecolegol hanfodol, fel helpu i gadw lleithder yn eu hamgylcheddau, atal erydiad pridd, a darparu cynefinoedd ar gyfer organebau amrywiol. Maen nhw’n atgenhedlu drwy sborau yn hytrach na hadau ac mae ganddyn nhw gylch bywyd penodol sy’n cynnwys creu gametoffyt cryfaf. I’w canfod mewn amrywiaeth o gynefinoedd, o loriau coedwigoedd i wlybdiroedd, mae bryoffytau’n ddangosyddion pwysig o iechyd yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

Sefydliad

Home – British Bryological Society

FFYNGAU A CHENNAU

Ffyngau

Mae ffyngau yn grŵp amrywiol o organebau ewcaryotig sy’n chwarae rhan hanfodol mewn ecosystemau ledled y byd. Mae’r deyrnas hon yn cynnwys burumau, llwydni a madarch, sy’n arddangos ystod eang o ffurfiau a swyddogaethau. Mae ffyngau’n unigryw yn eu dull o faethu, gan eu bod yn cael maetholion drwy berthnasoedd saprotroffig, parasitig neu symbiotig, gan dorri deunydd organig i lawr ac ailgylchu maetholion yn yr amgylchedd. Maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at iechyd pridd, tyfiant planhigion, a phrosesau dadelfennu. Yn ogystal, mae gan ffyngau ddefnydd pwysig mewn cynhyrchu bwyd, meddygaeth a biotechnoleg, gan eu gwneud yn hanfodol ar gyfer cydbwysedd ecolegol a chymdeithas ddynol. Mae eu cylchoedd bywyd cymhleth a’u strategaethau atgenhedlu amrywiol yn amlygu ymhellach eu gallu i addasu a’u pwysigrwydd mewn gwahanol ecosystemau.

Sefydliad

Home :: British Mycological Society

Prosiectau

Cennau

Mae cennau’n organebau symbiotig rhyfeddol sy’n cael eu ffurfio drwy’r berthynas gydymddibynnol rhwng ffyngau a phartneriaid ffotosynthetig, algâu neu syanobacteria fel rheol. Gellir dod o hyd i’r strwythurau unigryw yma mewn amrywiaeth o amgylcheddau, o gopaon mynyddoedd garw i arwynebau trefol, gan arddangos eu gwytnwch rhyfeddol a’u gallu i addasu. Mae cennau’n chwarae rhan hanfodol mewn ecosystemau, gan gynnwys ffurfiant pridd, cylchu maetholion, a gwasanaethu fel bioddangosyddion ansawdd aer. Mae eu lliwiau a’u ffurfiau amrywiol yn cyfrannu at harddwch tirweddau ac mae eu gallu i ffynnu mewn amodau eithafol yn eu gwneud yn destunau astudio pwysig mewn ymchwil ecoleg a hinsawdd.

Sefydliadau

The British Lichen Society

Adnoddau

.

AMFFIBIAID AC YMLUSGIAID
GWENYN, GWENYN MEIRCH A MORGRUG
ADAR
GLÖYNNOD BYW A GWYFYNOD
MAMALIAID
MOLYSGIAID
INFERTEBRATA ERAILL

Infertebrata Eraill

Canllawiau Adnabod Cyffredinol 

Gwir Bryfed

Sefydliadau

British Bugs Home – An online identification guide to UK Hemiptera

Adnoddau

Tarianbryfed

Chwilod

Gweision y neidr a mursennod

Sefydliadau

British Dragonfly Society 

 

Pryfed (Diptera)

Sefydliadau

Dipterists Forum – the society for the study of flies (Diptera)

Pryfed Hofran 

Pryfed Sgorpion  

Pryfed Teiliwr

Amldroedion ac Isopodau

Sefydliadau

Discovering Millipedes, Centipedes, Woodlice & other Isopods in Britain & Ireland | British Myriapod and Isopod Group

Adnoddau

MOROL
Mae Gorllewin Cymru yn lleoliad gwych ar gyfer gwylio bywyd gwyllt morol, gydag ecosystem amrywiol ar hyd ei harfordir syfrdanol. Yn aml gellir gweld morloi llwyd yn torheulo ar lannau creigiog ac mae’r dyfroedd yn gartref i ddolffiniaid trwyn potel chwareus. Mae’r amgylchedd morol cyfoethog yma nid yn unig yn gartref i’r rhywogaethau eiconig yma ond hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd y rhanbarth i gadwraeth forol.     

Sefydliadau

DŴR CROYW

Cynefinoedd

Mae Gorllewin Cymru yn hafan i ystod amrywiol o rywogaethau, wedi’u siapio gan dirweddau amrywiol yr ardal o glogwyni arfordirol, bryniau tonnog, a choetiroedd hynafol. Mae’r ardal yn arbennig o adnabyddus am ei bywyd morol, gyda phoblogaethau toreithiog o forloi llwyd ac ambell i ddolffin trwyn potel i’w weld oddi ar yr arfordir. I mewn am y tir, gallwch ddod o hyd i farcutiaid coch yn esgyn i’r awyr, mae’r coetiroedd yn darparu cynefin i famaliaid ac adar amrywiol, gydag ardaloedd helaeth o rostir a gweundir yr ucheldir yn darparu cynefin ar gyfer planhigion arbenigol a’u infertebrata cysylltiedig. Mae ecosystemau unigryw Gorllewin Cymru yn ei gwneud yn ardal bwysig ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt ac yn cynnig cyfleoedd di-ri i bobl sy’n hoff o fyd natur i arsylwi a gwerthfawrogi amrywiaeth o gynefinoedd.

Pam cofnodi bywyd gwyllt?

Mae cymaint o wahanol gymhellion â sydd o gofnodwyr bywyd gwyllt. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i’ch cymhelliant eich hun dros amser, ond mae tri rheswm bras wedi’u hamlinellu isod:

1. Ar Gyfer Cadwraeth
Mae gwybod ble mae rhywogaethau i’w gweld yn hanfodol i’w gwarchod. Mae rhai rhywogaethau wedi’u gwarchod yn gyfreithiol, wedi’u rhestru’n genedlaethol fel pryder cadwraeth, neu wedi’u nodi fel rhai o bwysigrwydd lleol. Mae rhestr o’r rhywogaethau yma i’w gweld yma. Gall presenoldeb y rhywogaethau yma effeithio’n uniongyrchol ar y broses gynllunio. Yn ogystal, mae ein partneriaid ni mewn awdurdodau lleol, cyrff statudol, sefydliadau bywyd gwyllt ac eraill yn chwilio drwy ein cronfa ddata ni bob dydd am gofnodion rhywogaethau i arwain camau cadwraeth.

 

2. Ar gyfer Ymchwil
Mae systemau naturiol yn newid, mae rhywogaethau yn symud. Wrth i’r hinsawdd newid rydyn ni’n gweld rhywogaethau newydd yn cyrraedd yma o’r cyfandir, efallai y byddwn hefyd yn gweld cyfradd gynyddol o ddirywiad yn ein fflora a ffawna brodorol. Mae cofnodion biolegol, sy’n cael eu creu yn bennaf gan wirfoddolwyr, yn chwarae rhan hanfodol wrth dracio’r newidiadau yma, fel ein bod yn gallu eu lliniaru a helpu i adfer ecosystemau. Gellir cyfuno setiau data mawr o gofnodion rhywogaethau dros gyfnodau hir yn astudiaethau mawr sy’n dangos i ni sut mae dosbarthiad a phoblogaethau’n newid dros amser. Mae’r astudiaethau hyn yn dibynnu ar gofnodion pob rhywogaeth mewn grŵp tacson, rheswm arall pam ei bod yn bwysig cofnodi’r rhywogaethau sy’n ymddangos yn gyffredin hyd yn oed. Crynhoir canfyddiadau cenedlaethol o gofnodion biolegol yn yr adroddiad Cyflwr Byd Natur, neu ar lefel fwy lleol, adroddiad Cyflwr Byd Natur Sir Gaerfyrddin

 

 

3. Ar Eich Cyfer Chi Eich Hun
Mae codi allan i fyd natur yn wych ar gyfer eich lles ac mae cofnodi bywyd gwyllt yn ffordd wych o wneud hynny. Mae’n ffordd hwyliog o ddysgu mwy am y byd naturiol, cysylltu â’ch ardal leol, a gallwch gadw cofnod o’ch gwybodaeth gynyddol gyda’n gwefan gofnodi. Efallai y byddwch chi’n darganfod bod eich chwilfrydedd yn parhau i dyfu hefyd!     

 

Beth i’w gofnodi?

Calendr Cynlluniau Cofnodi
Gofyn am restr o rywogaethau targed

Cysylltwch â ni gyda lleoliad y mae gennych ddiddordeb mewn ei gofnodi a gallwn roi rhestr i chi o’r rhywogaethau sydd angen eu cofnodi yn yr ardal.


    I consent to the storage and handling of my data by WWBIC for the purposes of contacting me about an enquiry. I understand that WWBIC will protect my data and that I can request for it to be updated or deleted. Privacy Policy

    This form uses Akismet to reduce spam. Learn how your data is processed.

     

    Cysylltu â ni

    Ffurflen Gysylltu

      Eich Enw (angenrheidiol)

      Eich E-bost (angenrheidiol)

      Pwnc

      Eich Neges

      I consent to the storage and handling of my data by WWBIC for the purposes of contacting me about an enquiry. I understand that WWBIC will protect my data and that I can request for it to be updated or deleted. Privacy Policy

      Cwestiynau Cyffredin am Gofnodi

      Pam mae cofnodi yn bwysig/Pam ddylwn i fynd ati i gofnodi?
      Mae’r cofnodion rydych chi’n eu cyflwyno’n mynd tuag at fapio bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Mae’r data’n cael eu storio’n ddiogel a’u rhannu gyda’r cyrff priodol fel sail i benderfyniadau cadwraeth, cynllunio a pholisi.
      Ble mae'r data'n mynd? Pwy all weld y data llawn?
      Mae’r data’n cael eu storio’n ddiogel yn ein bas data ni a’u huwchlwytho wedyn i’n safle ni ar gyfer Cymru gyfan, sef Aderyn, lle gall y cyhoedd weld mapiau dosbarthiad a chofnodion am rywogaethau nad ydynt yn sensitif a gall ymgynghorwyr ecolegol a sefydliadau partner ac ymchwil eraill ofyn am yr holl gofnodion. Edrychwch ar ein crynodeb llif data yma.
      A fydd pobl yn gallu gweld lle rydw i'n byw, os byddaf yn cofnodi rhywogaethau yn fy ngardd?
      Does dim angen i chi roi eich cyfeiriad personol yn y cofnod, mae enw’r stryd neu’r dref agosaf yn ddigon.
      Pa mor gyflym fyddaf yn gwybod bod fy nghofnodion wedi cael eu gwirio?
      Mae’r dilysu’n cael ei wneud gan nifer fach o arbenigwyr gwirfoddol sydd â llawer iawn o gofnodion i’w gwirio. Bydd rhai cynlluniau’n dilysu’n rheolaidd, gall eraill fod unwaith y flwyddyn. Peidiwch â phoeni os nad yw eich cofnod wedi cael ei wirio eto, mae’n ddefnyddiol o hyd a bydd yn cael ei roi yn y system fel un heb ei asesu nes bod rhywun wedi’i ddilysu. Anfonwch eich cofnodion at yr arbenigwyr lleol yma.
      Ydw i’n gallu defnyddio What3words yn lle cyfeirnod grid?
      Mae W3W yn adnodd defnyddiol ac mae posib ei drawsnewid yn gyfeirnod grid gan ddefnyddio Grid Reference Finder ar-lein.
      Ble mae dod o hyd i gyfeirnod grid?
      Bydd Ap LERC Cymru yn cynhyrchu cyfeirnod grid wrth fynd. Bydd ein gwefan yn cynhyrchu cyfeirnod grid o’r lleoliad ar y map. Neu gallwch lawrlwytho OS locate neu ddod o hyd iddo ar-lein yn Grid Reference Finder. 
      Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Ap LERC Cymru, iRecord ac iNaturalist?
      Mae iRecord wedi’i leoli yn y DU ac mae wedi cael ei ddatblygu a’i gyllido gan UKCEH a’r Biological Records Centre (BRC), sy’n cefnogi cynlluniau a chymdeithasau Prydeinig. Mae’r cofnodion yn cael eu dilysu gan arbenigwyr o’r cymdeithasau yma. Mae gan iNaturalist broses ddilysu wahanol ac mae unrhyw gofnod yn cael ei ddilysu os yw 3 neu fwy o bobl yn cytuno â’r adnabod. Dim ond os yw’r defnyddiwr yn newid y gosodiadau caniatâd o CC-BY-NC i CC-BY y gall cofnodion yn iNaturalist gael eu defnyddio. Rydym yn argymell Ap LERC Cymru sydd wedi’i ddatblygu gan LERC Cymru i fod yn gydnaws â systemau iRecord, WWBIC ar-lein, SEWBRECORD, BIS a COFNOD.

      Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Sir Gaerfyrddin

      Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Ceredigion

      Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Sir Benfro