Mae Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru yn eich gwahodd chi i ymuno â ni yn y digwyddiad arbennig hwn. Dydd Gwener 14eg Gorffennaf, Canolfan Gynadleddau Halliwell, Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. 11.00am-3.00pm
The Local Environmental Records Centres Wales invite you to join us at this special event. Friday 14th July, Halliwell Conference Centre, University of Wales, Trinity St David, Carmarthen. 11.00am-3.00pm
Siaradwyr Gwadd
Dr. Jane Davidson, Cyfarwyddwr INSPIRE a Dirprwy Is Ganghellor Cynaliadwyedd ac Ymgysylltu, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Ray Woods, Arbenigwr ar Ffyngau a Phlanhigion Is, Darlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.
Cymru fu ac yw’r unig wlad yn y DU, ar ôl deng mlynedd, sydd â rhwydwaith cyflawn o Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERCs). Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu’r blynyddoedd hynny ac yn dangos sut rydym yn cydweithio i gyfuno a rhannu ein cyfoeth o ddata am fioamrywiaeth. Bydd yn cynnwys lansiad swyddogol Aderyn, gwefan i ddarparu gwell mynediad at ddata a gwasanaethau LERC Cymru.
Bydd Te a Choffi ar gael o 10.30 ymlaen a bydd cinio bwffe ar gael fel rhan o’r diwrnod.
Bydd rhagor o fanylion am y rhaglen yn cael eu hanfon at y rhai sy’n cadarnhau eu bod yn dod.
Atebwch os gwelwch yn dda ar: LERCWales@sewbrec.org.uk
Ers lansio’r rhwydwaith yn swyddogol yn 2007, mae’r pedair LERC ranbarthol wedi bod yn darparu gwasanaethau data bioamrywiaeth o safon uchel i amrywiaeth eang o gyrff y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i chi glywed sut rydym wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd hyn, sut rydym yn dod â data at ei gilydd ar gyfer y genedl gyfan, a sut mae hyn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r fframwaith deddfwriaethol amgylcheddol yng Nghymru.
Guest Speakers
Dr. Jane Davidson, Director of INSPIRE and Pro Vice Chancellor for Sustainability and Engagement, University of Wales Trinity Saint David
Ray Woods, Fungi and Lower Plant Specialist, Honorary lecturer at the Universities of Aberystwyth and Cardiff.
Ten years ago Wales became (and still remains) the only UK nation with a complete network of Local Environmental Records Centres (LERCs). This event will celebrate those years and demonstrate how we work together to combine and share our wealth of biodiversity data. It will include the official launch of Aderyn, a website designed to provide greater access to LERC Wales data and services.
Tea and Coffee will be available from 10.30 and a buffet lunch will be included.
Further details of the programme will be sent to confirmed attendees.
RSVP to: LERCWales@sewbrec.org.uk
Since the network was officially launched in 2007 the four regional LERCs have been providing high quality biodiversity data services to a wide range of public, private and third sector bodies. This event will be a unique opportunity for you to hear how we have developed over these years, how we now bring data together for the whole nation, and how this data is being used to support the environmental legislative framework of Wales
Sent on behalf of the Local Environmental Records Centres Wales comprising:
The Biodiversity Information Service for Powys and the Brecon Beacons National Park
South East Wales Biodiversity Records Centre
Cofnod – The Local Environmental Records Centre for North Wales
West Wales Biodiversity Information Centre