Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin – Arolwg y Gwcw Sir Gaerfyrddin 2025

© Adam Dare
Hoffai Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin gael eich help chi i ddarganfod ble rydych chi’n clywed y Gwcw yn y sir yn 2025
Helpwch ni i ddarganfod i ble mae’r Gwcw yn dychwelyd yn y sir yng ngwanwyn 2025. Cofnodwch pryd clywsoch / gwelsoch chi’r Gwcw ar y ffurflen gofnodi yma. Mae dychweliad y gwanwyn yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei nodi gan alwad y Gwcw, yn cyhoeddi ei bod wedi dychwelyd o diroedd gaeafu yn Affrica.
Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin yn cynnwys sefydliadau fel y Cyngor, llywodraeth a chyrff bywyd gwyllt heb fod yn rhan o’r llywodraeth, elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddol – a phob un yn gweithio gyda’i gilydd i ofalu am fioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin a’i chyfoethogi.
Arwyddocâd Dychweliad y Gwcw
Wrth i’r gwanwyn gyrraedd Sir Gaerfyrddin, cawn ein cyfarch gan gri eiconig y Gwcw, sy’n nodi ei bod wedi dychwelyd o’i thiroedd gaeafu yn Affrica. Bydd eich cyfranogiad chi yn yr arolwg yma’n ein helpu ni i olrhain yr adar mudol yma a deall mwy am sut mae hi arnyn nhw ar hyn o bryd.
Pwy Ydym Ni?
Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin, cydweithrediad rhwng llywodraeth leol, sefydliadau bywyd gwyllt, elusennau, a grwpiau gwirfoddol, wedi ymrwymo i warchod a gwella bioamrywiaeth ein sir. Gyda’n gilydd, rydyn ni eisiau deall a gwarchod rhywogaethau fel y Gwcw.
Pam Mae’r Arolwg Yma’n Bwysig?
Mae adroddiadau diweddar o Arolwg Adar Prydain (2019) yn dangos dirywiad pryderus ym mhoblogaethau’r Gwcw:
- Lloegr: dirywiad o 71%.
- Yr Alban: dirywiad o 54%.
- Cymru: dirywiad o 29%.
Mae’r Gwcw bellach wedi’i rhestru fel rhywogaeth blaenoriaeth yng Nghymru ac wedi’i dynodi’n rhywogaeth Goch o Bryder Cadwraethol, sy’n dynodi’r lefel uchaf o fygythiad. Er bod y Gwcw i’w gweld yn Sir Gaerfyrddin o hyd, mae’n prinhau, ac rydyn ni angen eich help chi i fonitro ei niferoedd a’i chynefin magu.
Ffeithiau am y Gwcw
- Cyrraedd: Mae’r Gwcw yn dychwelyd o Affrica tua thrydedd wythnos mis Ebrill.
- Gadael: Mae fel rheol yn gadael erbyn diwedd mis Gorffennaf.
- Cri: Mae’r Gwcw wrywaidd yn gwneud sŵn “Cwc-w” nodedig, ond cri fyrlymus sydd gan y fenyw.
Nid yw absenoldeb cofnod am rywogaeth o reidrwydd yn golygu absenoldeb y rhywogaeth honno – dim ond nad oes cofnodion ar gadw. Rydyn ni angen eich help chi i lenwi’r bylchau a hefyd diweddaru’r cofnodion presennol.
- Nythu: Nid yw’r Gwcw yn adeiladu ei nyth ei hun, ond yn dodwy ei hwyau yn nythod adar eraill, yn enwedig Corhedydd y Waun.
- Ymddangosiad: Maint colomen gyda chorff main ac adenydd pigfain, tebyg i’r Cudyll Coch neu’r Gwalch Glas.
Pam mae Niferoedd y Gwcw yn Dirywio?
Gall sawl ffactor gyfrannu at ddirywiad y Gwcw, gan gynnwys y canlynol:
- Mudo a thiroedd gaeafu yn Affrica: mae astudiaethau olrhain yn dangos y gall patrymau mudo effeithio ar eu goroesiad.
- Colli cynefinoedd: mae newidiadau mewn defnydd tir yn lleihau gwlybdiroedd a chynefinoedd allweddol eraill.
- Prinder ysglyfaeth: mae dirywiad mewn lindys gwyfynod a Chorhedydd y Waun, prif rywogaeth gynnal y Gwcw, yn effeithio ar ei niferoedd.
Sut Gallwch Chi Helpu
Rydyn ni angen eich help chi i gofnodi gweld y Gwcw a chlywed ei chri. Drwy rannu eich cofnodion, byddwch yn ein helpu ni i greu darlun cliriach o ble mae’n dychwelyd ac yn nythu yn Sir Gaerfyrddin.
Sut i Gymryd Rhan:
Cofnodi: Yn syml, nodwch pryd a ble rydych chi’n gweld neu’n clywed Cwcw.
Cyflwyno: Cofnodwch yr hyn rydych chi wedi’i weld drwy:
- Canolfan Cofnodi Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru: Cofnodi bywyd gwyllt a chofnodi bioamrywiaeth yng Ngorllewin Cymru
- iRecord (chwilio am Arolwg y Gwcw Sir Gaerfyrddin 2025 yn y Gweithgareddau Gweithgareddau | iRecord)
- E-bost: biodiversity@carmarthenshire.gov.uk
- Neu nodi beth rydych chi wedi’i weld ar y ffurflen isod
Cofnodi Cwcw
Cwcw

Cog
Beth Sy’n Digwydd Nesaf?
Bydd yr holl gofnodion yn cael eu crynhoi ar fap a’u rhannu gyda Chlwb Adar Sir Gaerfyrddin a Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.
Hysbysiad GDPR
Bydd eich cofnodion yn cael eu cadw’n gyfrinachol ac yn cael eu defnyddio at ddibenion yr arolwg yma yn unig. Bydd unrhyw ddata personol sy’n cael eu casglu’n cael eu trin yn unol â rheoliadau preifatrwydd:
Diolch i Chi am Eich Help!
Drwy gymryd rhan, rydych chi’n cyfrannu at warchod y Gwcw ac yn ein helpu ni i ddeall beth allwn ni ei wneud i’w chefnogi. Beth am i ni gydweithio i sicrhau bod cri’r Gwcw’n parhau i gael ei chlywed ledled Sir Gaerfyrddin am flynyddoedd i ddod!