Gwasanaeth Ymholiadau Bioamrywiaeth
Cyfle i chwilio mewn ardal ddaearyddol benodol. Mae’n cynnwys adroddiad ar rywogaethau, cynefinoedd a data safle penodol a lleol, wedi’u categoreiddio i ddilyn sawl statws a gydnabyddir yn Rhyngwladol, yn Ewropeaidd, yn genedlaethol ac yn lleol.
Pwyntiau arddangos plotiau GIS (e.e. ar gyfer lleoliad rhywogaethau), neu bolygonau (e.e. ar gyfer mathau o gynefinoedd).
Gwasanaeth Gwirio Rhestri Cynllunio
Mae awdurdodau cynllunio’n gallu cyflwyno ceisiadau neu restri penodol o’r holl geisiadau cynllunio am archwiliadau bioamrywiaeth, i gyfres benodol o feini prawf, i gynnwys rhywogaethau, safleoedd ac archwiliadau byrion ar gynefinoedd.
Gellir ymestyn y gwasanaeth hwn ar gyfer archwiliadau Cynllun Datblygu Lleol.
Haenau rhybudd GIS
Mae modd cyflenwi is-adran o rywogaethau a data safle a gedwir gan y Canolfannau Cofnodi Lleol fel Haenau Rhybudd, drwy Gytundeb Trwydded Data sydd wedi’i greu’n benodol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Mae’r rhain yn cael eu cadw ar gael ar system TG y cwsmeriaid a gellir eu mapio ar y mapiau sylfaen OS gan ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd GIS.
Fel rhan o’r gwasanaeth, mae CGBGC yn gallu cyflwyno diweddariadau rheolaidd, bob chwarter neu 6 mis fel rheol, i’r cwsmer. Bydd y diweddariadau hyn yn cynnwys unrhyw ychwanegiadau a wneir i’r bas data cofnodi. Mae modd darparu hwn fel gwasanaeth unigol neu gan Ganolfannau Cofnodi Lleol Cymru.
Rheoli data
Casglu a rheoli data am rywogaethau a chynefinoedd i gynnwys cyfnewid data gyda chofnodwyr VC ar gyfer dilysu a rheoli’r data sy’n cael eu cyfnewid gyda Phorth NBN.
Gwasanaeth digideiddio
- Digideiddio data cynefinoedd Cam 1/NVC neu ffiniau safleoedd yn fformat GIS.
- Bwydo cofnodion am rywogaethau o fformat papur i fformat electronig.
- Adfer data a gedwir mewn fformatau electronig sydd wedi dod i ben.
Dosbarthiad rhywogaethau
Mapiau’n dangos dosbarthiad rhywogaeth unigol neu grŵp tacson yn ôl sgwâr grid.
Dadansoddi a Modelu Data GIS
- Asesiad Bioamrywiaeth lle mae data sy’n defnyddio ystod o nodweddion yn cael eu cyfuno i greu un haen rhybudd yn priodoli’r gwerth bioamrywiaeth cyffredinol.
- Modelu cysylltedd a darnio cynefinoedd.
- Modelu metaboblogaeth a thebygolrwydd y bodoli.
- Dadansoddiad hydrolegol (modelu symudiad dŵr ar draws arwyneb).
- Dadansoddi erydiad (modelu’r erydu a’r gwaddodi ar draws arwyneb).
Adroddiadau Prosiectau CGBGC
Archwiliad Cyfalaf Naturiol PLANED – Sir Benfro
Esiamplau o Astudiaethau Achos
Asesiadau Bioamrywiaeth ar gyfer Cynllunio Ymlaen Llaw
Astudiaeth o Gysylltedd Bioamrywiaeth ac Ecolegol mewn Aneddiadau yn Sir Gaerfyrddin.