BioBlitz Trefdraeth am Natur!

Gwahoddir i BioBlitz Trefdraeth am Natur Dydd Sadwrn 9fed o Orffennaf!

Byddwn yn cerdded o gwmpas Trefdraeth yn ceisio cofnodi cymaint o rywogaethau â phosib! Bydd trap gwyfynod yn cael ei ddadorchuddio yn y bore gyda chymorth arbenigwr Tony Lewis, yna bydd taith gerdded Adar gyda Paddy Jenks a thaith gerdded Peillwyr a Phlanhigion yn y prynhawn dan arweiniad Dr. Abbie Lowe.

Byddem yn gwerthfawrogi eich cwmni ac unrhyw gymorth y gallwch ei gynnig i adnabod rhywogaethau!

Beth i ddod:

  • Llyfr nodiadau a beiro
  • Ffôn i cofnodui’r hyn a welwyd gan ddefnyddio Ap LERC Cymru
  • Bwyd a Diod
  • Lens llaw ac ysbienddrych os oes gennych rai

Iechyd a Diogelwch

  • Bydd y digwyddiad y tu allan, gwnewch yn siŵr bod gennych yr offer ar gyfer y tywydd cyfnewidiol
  • Os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun â COVID-19, yn teimlo’n sâl neu â COVID 19, arhoswch yn ddiogel gartref

Mwy o fanylion i ddilyn, gan gynnwys lle i gyfarfod a pharcio!