Disgrifiad Swydd – Swyddog Prosiect

Mae Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (WWBIC) yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, angerddol a hunangymhellol i gynorthwyo tîm WWBIC ym mhob elfen o brosiect ‘Eich Darn Gwyllt’ – prosiect cyffrous sy’n anelu at feithrin sgiliau adnabod a chofnodi bioamrywiaeth yn y gymuned ehangach. Dros gyfnod y prosiect, bydd WWBIC yn datblygu system i unigolion a grwpiau fabwysiadu eu patch eu hunain ar gyfer cofnodi hirdymor a gweld sut mae eu cofnodion yn cyfrannu at y darlun lleol o fioamrywiaeth. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu rhagorol, y gallu i weithio ar ei fenter ei hun, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf. Bydd ganddo hefyd ddealltwriaeth sylfaenol o leiaf o adnabod bywyd gwyllt, cofnodi biolegol a meddalwedd GIS.

Eich Darn Gwyllt

Mae disgrifiad swydd a ffurflen gais ar gael yma.

Disgrifiad Swydd – Swyddog Prosiect

Cais am gyflogaeth

Job description -Project Officer  

Employment Application Form

Y dyddiad cau yw dydd Llun 5ed o Ionawr.

Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol rhanbarth Gorllewin Cymru yw WWBIC. Rydym yn rheoli cronfa ddata o dros 4 miliwn o gofnodion rhywogaethau ac yn cefnogi cofnodwyr biolegol yn ein rhanbarth. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru ac mae ein data a’n cynhyrchion GIS yn cyfrannu at warchod ac adfer natur ledled Cymru.